Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam.

Bydd Wrecswyl, gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd sbon, yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Nhŷ Pawb Wrecsam ar 7 Dachwedd.

Bydd y digwyddiad, wedi’i drefnu gan nifer o bartneriaid lleol, yn dod â cherddoriaeth fyw, llenyddiaeth, gweithgareddau i blant a chyfleoedd i ddysgwyr ynghyd mewn dathliad bywiog o’r Gymraeg yn y ddinas.  

Yn ôl Stephen Jones, Swyddog Strategol Y Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:  “Rydym yn edrych ‘mlaen i groesawu pawb i Wrecswyl am y tro cyntaf gan adeiladu ar waddol yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r nod o greu gofod cymdeithasol Cymraeg lle gall pobl ddod at ei gilydd i ddefnyddio, clywed a mwynhau’r Gymraeg boed yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr, neu’n bobl sy’n awyddus i gael blas ar ddiwylliant Cymraeg.” 

Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: – “Mae’n wych gweld yr Wrecswyl gyntaf yn cael ei gynnal yn Nhŷ Pawb ar 7 Tachwedd a byddwn yn annog unrhyw un sydd a diddordeb mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg, waeth beth fo’u gallu i siarad yr iaith, i ddod draw i fwynhau’r gorau sydd gan y diwrnod i’w gynnig.

Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o’n cais am Ddinas Diwylliant y DU ac mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o weithgareddau i gefnogi’r cais.”

Yn ystod y dydd, bydd Pentref Plant, wedi’i gyd-lynu gan Menter Iaith Fflint a Wrecsam, yn cynnig gweithgareddau creadigol a chyfeillgar i deuluoedd.  Bydd Coleg Cambria yn cynnal sesiynau i ddysgwyr, gan roi cyfle i bobl ymarfer eu Cymraeg a bydd Prifysgol Wrecsam hefyd yn trefnu sesiynau llenyddol fel rhan o’r rhaglen ddiwylliannol ehangach. Bydd corau o bob rhan o’r ardal yn perfformio drwy gydol y dydd, gan helpu i greu awyrgylch gymunedol gynnes yng nghanol y ddinas.

Gyda’r hwyr bydd cyfres o berfformiadau wedi’u curadu gan FOCUS Wales yn rhoi llwyfan i rai o artistiaid mwyaf cyffrous Wrecsam a Chymru, gan gynnwys Andy Hickie, Tara Bandito, Hudol, Morgan Elwy a’r Band, Papur Wal a Band Pres Llareggub. 

Bydd rhagor o fanylion am raglen lawn Wrecswyl, gan gynnwys lleoliadau ac amseroedd, yn cael eu cyhoeddi’n fuan.  Dilynwch Wrecswyl ar Facebook ac Instagram i dderbyn y newyddion diweddaraf.