Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam.  

Bydd Wrecswyl, gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd sbon, yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Nhŷ Pawb Wrecsam dydd Sadwrn 7 Dachwedd.  

Bydd y digwyddiad, wedi’i drefnu gan nifer o bartneriaid lleol, yn dod â cherddoriaeth fyw, llenyddiaeth, gweithgareddau i blant a chyfleoedd i ddysgwyr ynghyd mewn dathliad bywiog o’r Gymraeg yn y ddinas.   

Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:  

 “Mae’n wych gweld yr Wrecswyl gyntaf yn cael ei gynnal yn Nhŷ Pawb ar 7 Tachwedd a byddwn yn annog unrhyw un sydd a diddordeb mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg, waeth beth fo’u gallu i siarad yr iaith, i ddod draw i fwynhau’r gorau sydd gan y diwrnod i’w gynnig.  

Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o’n cais am Ddinas Diwylliant y DU ac mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o weithgareddau i gefnogi’r cais.”  

Yn ystod y dydd, bydd Pentref Plant, wedi’i gyd-lynu gan Menter Iaith Fflint a Wrecsam, yn cynnig gweithgareddau creadigol a chyfeillgar i deuluoedd gan gynnwys Sioe Hud a Lledrith, Celf a Chrefft a sesiwn stori gyda Theatr Clwyd.  

Bydd Coleg Cambria yn cynnal sesiynau i ddysgwyr, gan roi cyfle i bobl ymarfer eu Cymraeg a mae Prifysgol Wrecsam wedi trefnu sesiwn holi ac ateb gyda chyn enillwyr Coron Eisteddfod yr Urdd, Elin Undeg Williams a Iestyn Tyne, fel rhan o’r rhaglen ddiwylliannol ehangach.  

Bydd corau o bob rhan o’r ardal yn perfformio drwy gydol y dydd, gan helpu i greu awyrgylch gymunedol gynnes yng nghanol y ddinas.  

Gyda’r hwyr bydd cyfres o berfformiadau wedi’u curadu gan FOCUS Wales yn rhoi llwyfan i rai o artistiaid mwyaf cyffrous Wrecsam a Chymru, gan gynnwys Andy Hickie, Tara Bandito, Hudol, Morgan Elwy a’r Band, Papur Wal a Band Pres Llareggub.   

Mae rhagor o fanylion I’w gweld ar wefan Menter Iaith Fflint a Wrecsam neu dilynwch Wrecswyl ar Facebook ac Instagram i dderbyn y newyddion diweddaraf.