
Dewch i ddathlu Wrecswyl – gŵyl Gymraeg newydd Wrecsam yn Nhŷ Pawb!
Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn cerddoriaeth, hwyl ac adloniant i’r teulu oll!
Bydd digonedd i’w weld a’i wneud yn ein Pentref Plant gan gynnwys sesiwn tylino babi gyda Cymraeg i Blant, stori a gweithdy ‘Dewin y Nos’ gyda Theatr Clwyd a gweithdy Bît Bocsio gyda Mr Phormula!! Bydd Dwylo Blêr hefyd yn ymuno ni am y diwrnod cyfan i gynnal sesiwn celf a chrefft!

Bydd Coleg Cambria a Dysgu Cymraeg yn y Gogledd Ddwyrain yn cynnal sesiynau i ddathlu dysgwyr rhwng 9:30 a 12:30 gan gynnwys sesiwn gyda’r enwog Doctor Cymraeg. Yn y prynhawn mae Prifysgol Wrecsam wedi trefnu sesiwn holi ac ateb gyda cyn enilwyr coron Eisteddfod yr Urdd a gweithdy ysgrifennu creadigol gyda’r bardd a’r llenor lleol Tesni Peers.
I gloi’r diwrnod, bydd y llwyfan yn fyw gyda cherddoriaeth gan rai o fandiau mwyfan blaenllaw Cymru gan gynnwys Band Pres Llareggub, Tara Bandito, Papur Wal, Morgan Elwy a’r Band, a mwy!
Dewch draw i fwynhau’r awyrgylch, cefnogi ein cymuned leol a dathlu’r Gymraeg gyda ni. Mae croeso i bawb!
