Rhagfyr 3, 2025 3:00 pm - Rhagfyr 10, 2025 12:00 am

Dewch i gwrdd â Siôn Corn yn Chapter Court, Wrecsam. Bydd cyfle i ymuno yn hwyl yr ŵyl gan greu celf a chrefft Nadolig, ysgrifennu llythyr at Siôn Corn a chael ymweld fel teulu â’r Groto i sgwrsio a dymuno Nadolig Llawen i’r dyn a’i farf llaes a’i wallt gwyn.

Byddwn yn agor y drysau i bawb am 3pm, 4:30pm neu 6pm. Yn ystod y sesiwn grefft bydd y teuluoedd yn derbyn slot amser penodol i ymweld â Siôn Corn ac yn eu tro yn cael eu galw draw i’r groto i drafod hynt a helyntion y flwyddyn a’r hyn y maent eisiau y Nadolig hwn.

£4 am y plentyn cyntaf ac yna £2 am bob plentyn ychwanegol! Am ddim i rieni a gwarchodwyr.

Llefydd yn brin. Archebwch yn fuan.
Nodwch fod hwn yn ddigwyddiad iaith Gymraeg i blant.