Tachwedd 15, 2025 10:00 am - 5:30 pm Uned 1, Chapter Court, Wrecsam
Ydych chi’n ddigon cyfrwys a chraff i ddatrys holl bosau a’r cliwiau er mwyn dianc o’r Amguedfaaa!?
Dyma gyfle i brofi eich sgiliau a chael llond Diancfa (Ystafell Ddianc) o hwyl gyda ffrindiau, criw gwaith neu fel teulu.
4 aelod ym mhob tîm a rhaid talu am bob aelod (£5 yr un). Os ydych eisiau dod â thîm mwy cysylltwch â ni ar gwybod@menterfflintwrecsam.cymru
Addas i blant 14+ / 10+ mewn tîm gydag oedolion eraill.
