Grŵp Cymraeg y Waun
Dewch i gyfarfod ag artistiaid lleol ac i greu yn y Gymraeg! Cyfle i gymdeithasu a defnyddio’r Gymraeg sydd gyda chi, dysgu geirfa newydd a chrefftau amrywiol.
Sesiwn 1 – 30.10.25 – Emma-jayne Holmes – Braslunio / Sketching



Dewch i wneud llyfr braslunio a chwarae gemau llunio. Mi fyddwn yn defnyddio deunyddiau wedi’u ailgylchu ac offer tynnu llun syml.
Website – www.emmajayneholmes.co.uk
Facebook – Emma-Jayne Holmes
Instagram – artistemmajayne
Sesiwn 2 – 13.11.25 – Moxy Child – Argraffu gyda Tetra Pak / Printing with Tetra Pak

Dewch i ddysgu sgiliau argraffu newydd yn y Gymraeg. Mi fyddwn ni’n defnyddio pecynnau bwyd Tetra Pak i argraffu.
Sesiwn 3 – 27.11.25 – Eirian Muse – Gwehyddu Helyg / Willow Weaving

Sesiwn gyda Eirian Muse i ddysgu sut i greu addurniadau syml yn defnyddio helyg.