Gorffennaf 23, 2026 7:30 pm - 10:00 pm Neuadd Pentref Gwernymyndd Village Hall
Mae Twmpdaith yn ôl! Ac yn dychwelyd i Sir y Fflint am noson o hwyl, cerddoriaeth gwerin a dawnsio!
Daw TwmpDaith a set newydd sbon o gerddorion a dawnswyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd. Yr un mor dalentog â’u traed ag y maent gyda’u hofferynnau a’u lleisiau, bydd eu brwdfrydedd ifanc, egni diderfyn a’u halawon Cymreig bywiog yn ysbrydoli pawb i ddawnsio mewn dim o dro
Mae’r band yn cynnwys naw o gerddorion a dawnswyr ifanc o dros Gymru. Daethpwyd a hwy ynghyd drwy “Prosiect WYTH” – prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig.
Dewch i ddawnsio gyda ni!
