Gwirfoddoli

Meddwl am wirfoddoli? Eisiau gwirfoddoli er lles y Gymraeg yn eich cymuned?

Mae digon o gyfleoedd gwirfoddoli gyda Menter Iaith, os ydych chi’n meddwl am wirfoddoli am y tro cyntaf, yn ddisgybl yn gweithio tuag at wobr gymunedol am wirfoddoli, neu yn chwilio am brofiadau newydd.

Beth bynnag yw eich rheswm dros wirfoddoli, rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl wirfoddolwyr sydd wedi ac yn parhau i’n helpu ni i gynnal digwyddiadau llwyddiannus ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.

Dyma rai engreifftiau o’r ffyrdd y gallwch chi wirfoddoli gyda’r Mentrau Iaith a Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

Llais y Gwirfoddolwr

Enw:

Gareth Hughes

Sut wyt ti’n gwirfoddoli? 

Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ers bron i ddwy flynedd bellach, ac yn yr amser hynny rwyf wedi mwynhau cael bod yn rhan o amryw o ddigwyddiadau mae’r Fenter wedi’u trefnu a’u cynnal ar gyfer y cyhoedd i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn yr ardal. Un o fy uchafbwyntiau oedd eu conorthwyo yn ystod Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam.

Pam gwirfoddoli?

Fel un a gafodd fy magu ym mhentref Mynytho ym Mhen Llŷn, roeddwn yn dueddol o gymryd yr iaith Gymraeg yn ganiatol, ond bellach a minnau wedi ymgartref yng Nghoedpoeth, nid wyf yn cymryd y Gymraeg mor ganiatol erbyn hyn. Mae fy ngwraig a minnau yn ceisio magu ein meibion bach yn y Gymraeg, ac felly’n bersonol mae creu cyfleoedd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi a dyma pam fy mod yn gwerthfawrogi gwaith y Mentrau Iaith ac yn barod iawn ac yn falch o allu helpu gymaint a phosib.

Enw:

Siwan Elenid Jones

Sut wyt ti’n gwirfoddoli?

Rwyf wrth fy modd yn ymuno ym mhrif ddigwyddiadau Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn ystod y cyfnodau prysur trwy gynnig pâr ychwanegol o ddwylo a llygaid. O gynnig help llaw gyda stondinau gwybodaeth i ddawnsio ym mhartïon Magi Ann, mae digon o amrywiaeth ac rwyf yn mwynhau bob tro! Dyna’r prif reswm pam fy mod yn gwirfoddoli.

Pam gwirfoddoli?

Mae cymaint o fuddion yn dod wrth wirfoddoli gyda’r Fenter sy’n bwysig eu cydnabod:

  • Rydych yn teimlo fel rhan o dîm, ac yn hapus pan mae digwyddiad yn llwyddo, gan deimlo fel bod eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.
  •  Mae’n gyfle i roi amryw o sgiliau ar waith fel cyfathrebu neu ddatrys problemau, ac yn ffordd o ddatblygu’r rhain ymhellach.
  • Mae’n fanteisiol iawn ar CV gan ei fod yn dangos eich bod yn berson brwdfrydig sy’n fodlon rhoi eich amser i gynnig help llaw.
  • Rydych yn derbyn cyfrifoldeb wrth wirfoddoli, a chredaf mai cyfrifoldeb yw un o’r prif bethau sy’n llywio bywydau a phersonoliaethau unigolion.

 

Cysylltwch â ni i wybod pa fath o gyfleoedd gwirfoddoli gall Menter Iaith Fflint a Wrecsam gynnig i chi.