Pwy yw Magi Ann?
Prif gymeriad cyfres o straeon i blant yw Magi Ann, ac mae hi bellach yn un o hoff gymeriadau plant bach Cymru. I Mena Evans mae’r diolch am greu’r cymeriadau annwyl sydd yn ymddangos ar dudalennau y 40 llyfr du a gwyn gwreiddiol ‘Magi Ann a’i Ffrindiau’. Roedd Mena yn athrawes yn gweithio yn Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon, ac yn ystod cyfnod o fod adref yn gofalu am ei phlant ifanc, gafodd y syniad o greu llyfrau i helpu plant bach ddysgu darllen yn y Gymraeg trwy ddefnyddio Cymraeg syml a brawddegau ailadroddus er mwyn datblygu eu hyder. Fel canlyniad gwnaeth cenedlaethau o blant ddysgu darllen gyda llyfrau bach Magi Ann, yn arbennig ar draws y gogledd ddwyrain, gydol y 1970au a’r 80au.
Yn 2013 wnaeth Mena gyd-weithio gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar y gwaith o addasu’r straeon a’u hanimeiddio, gan greu chwech ap rhyngweithiol, arloesol, sy bellach wedi eu lawrlwytho dros 400,000 o weithiau.
Yn ddiweddar, diolch i gwmni cyhoeddi Atebol a gyda nawdd Llywodraeth Cymru, mae 10 o’r llyfrau hefyd wedi’u diweddaru ac ar gael fel llyfrau lliw sydd yn cynnwys nifer o elfennau newydd, gan gynnwys sbardun trafod – sydd â’r gallu i ddatblygu medrau llafar, darllen a deall dysgwyr – a thaflen eirfa Saesneg ar gyfer athrawon, rhieni neu gofalwyr di-Gymraeg.
Magi Ann yw masgot holl Fentrau Iaith Cymru ac mae ei chalendr yn llawn trwy’r amser gydag ymweliadau â gwyliau, digwyddiadau ac eisteddfodau ar draws y wlad!
Apiau Magi Ann
Yn ôl yn 2013 cafwyd sgwrs dros droli tu allan i archfarchnad yn yr Wyddgrug rhwng aelod o staff Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Rhian Davies, a Phrif Athrawes Ysgol Gymraeg Terrig (y Treuddyn), Nia Connah. Soniodd Mrs Connah bod rhieni di-Gymraeg yn dod â llyfrau darllen Cymraeg yn ôl gan ymddiheuro nad oedden nhw wedi gallu eu darllen gyda’r plant oherwydd ‘I don’t know how to say the words’. Roedd Mrs Connah yn gweld yr angen am adnodd i helpu’r rhieni hynny gydag ynganu.
A dyna oedd dechrau ar y prosiect uchelgeisiol o drosi llyfrau Magi Ann i apiau er mwyn creu adnodd byddai’n helpu plant ddysgu darllen trwy gyfrwng y Gymraeg, a galluogi rhieni a gofalwyr di-Gymraeg rhoi cymorth iddyn nhw a bod yn rhan o’u taith.
Erbyn mis Tachwedd 2014 (gyda chymorth ariannol gan y Loteri Genedlaethol a Chadwyn Clwyd) lansiwyd 6 ap lliwgar wedi’u hanimeiddio gyda nodweddion rhyngweithiol defnyddiol fel:
- Dewis i’r defnyddiwr unai ddarllen y straeon ar ei ben ei hun neu wrando ar leisiau yn adrodd y straeon;
- Modd tapio botwm i weld cyfieithiad o frawddegau, neu ar eiriau unigol penodol i glywed sut i’w ynganu;
- Jig-sos, gemau geiriau a thudalennau lliwio i ychwanegu at yr hwyl ac atgyfnerthu’r dysgu.
Mae llawer i’w diolch am eu gwaith wrth greu’r apiau gan gynnwys Mena Evans wrth gwrs, am ei chydweithrediad parod iawn yn ystod ar y gwaith hir a manwl o addasu’r llyfrau gwreiddiol du a gwyn.
Ond diolch yn fawr hefyd i nifer fawr o bobl leol a gyfrannodd eu lleisiau at recordio’r troslais ar gyfer y straeon. Cyfrannodd cwmni SOH ddefnydd o’u stiwdio recordio sain am ddim, a rhoddodd Mr Tony ‘Banjo’ Kensall oriau o’i amser yn wirfoddol i sicrhau sain o’r safon uchaf. Prawf-ddarllenodd Nia Wyn Jones, Trysorydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam, pob un dim gyda’i llygaid craff. Wedyn, wedi’r holl waith paratoi aeth Cwmni Sbectol, ac yn enwedig Siôn ‘Maffia’ Jones a Simon Beech, ymhell tu hwnt i’r disgwyl o ran y gwaith animeiddio gan wireddu holl ddymuniadau’r Fenter wrth ddod â Magi Ann a’i Ffrindiau i gyd yn fyw ar y sgrin.
Erbyn hyn mae’r apiau, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, wedi eu lawrlwytho dros 400,000 o weithiau a hefyd wedi cael eu cyfieithu i’r iaith Gernyweg.
Yn 2017 enillodd Apiau Magi Ann wobr y Loteri Genedlaethol yn y Categori Addysgol, fel y prosiect gorau o’i fath ym Mhrydain Fawr.
Mae’r holl apiau ar gael i’w lawrlwytho am ddim yma:
Y Datblygiad Cyffrous Diweddaraf – Llyfrau Lliw Newydd Magi Ann a’i Ffrindiau

Penderfyniad Cwmni Cyhoeddi Atebol i gyhoeddi llyfrau Magi Ann, wedi’u diweddaru ac mewn lliw, yw’r datblygiad cyffrous diweddaraf ar hyd y daith hynod hon. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei groesawu yn fawr. Rydym yn falch iawn hefyd o fod wedi cael y cyfle i gyd-weithio ar y datblygiad sydd yn cynnwys elfennau dysgu newydd sy’n yn eu gwneud yn addas ar gyfer darllenwyr ail-iaith yn ogystal â dysgwyr Cymraeg iaith gyntaf. Mae’r datblygiad hwn yn sicrhau bod y llyfrau’n ffres a chyfoes ac yn addas i gynulleidfa newydd sbon – ac yn ein cyflwyno i dau gymeriad newydd o’r enw Ali a Jac.
Cafodd y datblygiad hwn ei gefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS: “Nod y Llywodraeth yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. I wireddu’r nod rhaid buddsoddi yn yr hen a’r newydd a dyma gyfle i wneud y ddau. Mae partneriaeth hollbwysig cwmni Atebol a Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn ein galluogi i ariannu cymeriad poblogaidd o’r 70au fel Magi Ann tra’n hefyd yn ei chadw’n ffres ac apelgar. Rydym yn falch iawn o elfennau newydd y llyfrau, gan gynnwys y sbardun trafod – sydd â’r gallu i ddatblygu medrau llafar, darllen a deall dysgwyr – a’r daflen eirfa Saesneg ar gyfer ymarferwyr a rhieni di-Gymraeg. Gall Magi, dwi’n siŵr, gyda’i llyfrau newydd, magu miloedd o siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf.”
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld cenedlaethau newydd o blant Cymru yn dysgu darllen gyda Magi Ann a’i Ffrindiau ar eu newydd wedd!
Ceir prynu llyfrau newydd Magi Ann yma: www.atebol.com
Gallwch hefyd ddilyn anturiaethau Magi Ann a’i Ffrindiau ar Facebook a Twitter