Pleser yw cyhoeddi bod Gŵyl Gymunedol Gymraeg yn dychwelyd i’r Wyddgrug…
Mae GWYDDGIG yn ôl!

Yn dilyn llwyddiant ysgubol llynedd mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn hapus i gyhoeddi bod Gwyddgig unwaith eto am gynnig diwrnod o ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sgyrsiau i ddysgwyr a mwy.
Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 12fed bydd Sgwâr Daniel Owen a’r Stryd Fawr yn llawn bwrlwm wrth i ysgolion lleol ac artistiaid megis Meinir Gwilym ac Al Lewis berfformio ar ddiwrnod Marchnad.
Bydd cyfle hefyd i ymuno mewn sesiwn Stori a Chân Magi Ann, sesiwn Disgo Distaw gyda’r Urdd, gweithdai gyda Mr Phormula, Sioe Hud a Lledrith gyda Professor Llusern, gweithdy crefft a llawer mwy mewn sawl lleoliad o gwmpas y dref.
Dywedodd Maiwenn Berry, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

‘Mae’r ŵyl yn gyfle gwych i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg cyfoes a chyffroes i gynulleidfa na fyddai, fel arfer, yn ei glywed o ddydd i ddydd gan amlygu’r hwyl a’r bwrlwm a geir wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch Gymraeg yn y gymuned’
Yn wir bydd rhywbeth at ddant pawb yn ystod y dydd, a’r hyn oll am DDIM!
I gloi’r ŵyl bydd gig gyda’r hwyr yn Theatr Clwyd gyda’r band ‘Daniel Lloyd a Mr Pinc’ i ddathlu 20 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘Goleuadau Llundain’. Dywedodd Rheolwr y Gymraeg Angharad Madog;
“Mae Theatr Clwyd yn falch iawn o gael cyd-weithio gyda’r Fenter eto eleni. Edrychwn ni ymlaen at gael cynnal adloniant yr hwyr yma yn y theatr trwy gloi’r ŵyl gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc… gydag ambell i syrpreis!”
Felly cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am ddiweddariadau a mwy o gyhoeddiadau cyffrous. Os hoffech chi gymryd rhan neu wirfoddoli cysylltwch â Ceri@menterfflintwrecsam.cymru