MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM
Mudiad lleol yw Menter Iaith Fflint a Wrecsam sy’n hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
SWYDDOG DATBLYGU CYMUNEDOL
Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau hwyliog er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.
Cyflog: £22,112 – £23,218 (neu pro rata) + cyfraniad pensiwn cyfatebol hyd at 6%
Swydd am gyfnod o flwyddyn i gychwyn gyda’r bwriad o barhad yn ddibynnol ar gyllid.
Oriau: 37 awr yr wythnos (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd). Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd â phatrymau gwaith hyblyg.
Lleoliad: Mae swyddfa’r Fenter yn yr Wyddgrug
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Llun 29ain Ebrill 2024
Am sgwrs anffurfiol neu i wneud cais cysylltwch â Maiwenn Berry (Prif Swyddog)
maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru / 01352 744040
(This is an advertisement for a Community Development Officer working with communities in Flintshire and Wrexham for which the ability to speak Welsh is essential)