Mae’r Fenter Iaith leol wedi bod yn brysur tu hwnt dros y misoedd diwethaf yn cynnal digwyddiadau di-ri o dan brosiect newydd sbôn, Llwybrau Llafar, yn Wrecsam a’r cyffuniau.  A hynny yn ddiolch i gyllid gan gronfa Wrecsam2029 (Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU)

O daith gerdded llawn ysbrydion a direglion tywyll Taith y Tolaeth, i lwybrau Parc Bellvue gydag ysgolion lleol ym Mwystfilod y Bwrdeistref ac ystafell ddianc llawn hanes yn Amgueddfaaa!  Yn sicr roedd rhywbeth i bawb.

 Bwriad y gyfres oedd i ddangos bod Wrecsam a Chymru yn frith o chwedlau, hanes a straeon di-ri, gan ddod â’r straeon a‘r hanes hynny, ynghyd â threftadaeth leol a chenedlaethol yn nes at blant, pobl ifanc a chymunedau Wrecsam mewn ffordd rhyngweithiol, creadigol a chwareus sy’n ennyn diddordeb ac yn tanio’r dychymyg.

Taith y Tolaeth

Penderfynwyd cynnal cyfres o ddigwyddiadau prawf a fyddai’n ein galluogi i arbrofi gyda arddulliau gan addasu’r gweithgarwch yn dibynnu ar oed a chefndir y cyfranogwyr, eu gallu ieithyddol ac ar leoliad. Hyn oll yn gyfle i bobl ddysgu am eu hardal leol, i ymarfer yr hyn o Gymraeg sydd ganddyn nhw ac i ddathlu Wrecsam.  

Ein digwyddiad cyntaf oedd ein taith llawn ysbrydion, hanesion tywyll a straeon am ddigwyddiadau goruwchnaturiol y ddinas wrth i ni lwybro drwy strydoedd Wrecsam ar nos Calan Gaeaf dan arweiniad y chwedleuwr Chris Baglin.  Yn wir roedd Taith y Tolaeth yn ddigwyddiad a lwyddodd i gyfareddu a dychryn y sawl a oedd yn ddigon dewr i gymryd rhan ar yr un pryd, gyda straeon a chwedlau am gymeriadau megis Y Barnwr Jeffreys a Richard Gwyn yn gyrru ias oed lawr cefnau pob un a ymunodd ar ein taith dan ola leuad.   A fyddwch chi mor ddewr y flwyddyn nesa?

Bwystfilod y Bwrdeistref

Hefyd ym mis Tachwedd fe gafwyd cyfle i gynnal gweithgaredd beilot gydag ysgolion sy’n lleol i Parc Bellvue yn y ddinas, roedd  Bwystfilod y Bwrdeistref yn gyfle i godi ymwybyddiaeth y plant o llên gwerin a chwedlau lleol gydag Chris Baglin (crëwr podlediad chwedlau Yma Mae Dreigiau) a Fiona Collins (awdures Wrexham Folktales) yn tywys y disgyblion o gwmpas y parc yn adrodd chwedlau lliwgar, llawn antur mewn ffordd rhyngweithiol a chyffroes.  Roedd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd grefft ar y daith gyda’r disgyblion yn derbyn pecyn addysg ar ddiwedd y weithgaredd.   

Roedd y prosiect yn pwysleisio pwysigrwydd chwedlau fel cofnod o’n hanes a’n traddodiadau ni fel Cymry ac yn eu cyflwyno ar lafar mewn ffordd ffres, unigryw a chreadigol gan ysbrydoli plant a phobl ifanc i rannu hud swynol y straeon gydag eraill.    

Dan ni’n teimlo’n hynod lwcus bod y gronfa wedi ein galluogi ni i  greu sefyllfaoedd cymdeithasol sydd yn ei normaleiddio’r Gymraeg, yn ei rhoi mewn cyd-destun gwahanol ac sicrhau bod plant yr ardal yn cael profiadau Cymraeg cadarnhaol, a hynny gyda’r nod o ddylanwadu ar eu hagwedd a’u defnydd ieithyddol.

Amgueddfaaa!

Mae gweithgarwch megis ystafelloedd dianc a helfâu awyr agored yn eu hanterth ar hyn o bryd yn boblogaidd iawn mewn sawl tref a dinas ond yn sicr mae bwlch yn y farchnad i rai Cymraeg a Chymreig sydd yn seiliedig, yn bennaf, ar un ardal benodol o Gymru, sef Sir Wrecsam. Mae’r Amgueddfaaa! yn addas ar gyfer dysgwyr felly roedd yn ffordd hwyl i siaradwyr newydd defnyddio’r Gymraeg ac ymarfer gydag eraill. Cafodd yr ystafell ddianc ei chynnal ar y 15fed o Dachwedd yn Chapter Court yn Wrecsam. Rydym yn gobeithio y bydd cyfle i gynnal eto yn y dyfodol.