10 Gêm Bwrdd i’w chwarae yn y Gymraeg dros yr ŵyl!

Mae gan pawb, siŵr gen i rhyw brofiad gwael o’u plentyndod o chwarae rhyw hen gêm fwrdd dros y ‘Dolig, falle bod y brawd bach yn gollwr gwael, neu’r brawd mawr yn prynu Mayfair a Park Lane ar y rownd gyntaf bob tro, efallai bo’ gan chithau ‘Anti Sw’ sydd byth yn cofio’r rheolau, a cyn y diwedd mae rhywun siŵr o golli’r dis sy’n arwain at Llyncu Mul  (a na, Twrci da ni’n fwyta fel arfer yn tŷ ni).

Hyn i gyd heb sôn am y Saesneg faith sydd ar gardiau chwarae a’r bwrdd!  Dim bod gemau bwrdd “Cymraeg” yn well, gan bod y ‘chydig rhai sy’n bodoli o’n nghof i yn llawn addysg, berfenwau ac hanes.  Dach chi’n cofio ‘Gair am Air’ ers ‘Stalwm?

Holl bwrpas, medd un awdur, o chwarae gemau bwrdd yw i dreulio amser yng nghwmni y rhai sydd agos at eich calon (wyneb yn wyneb ac nid wyneb â’r sgrîn).  Pa mor braf y bysa’ hi petai hi’n bosib i ni weiddi, chwerthin, tynnu coes a chwarae fel teulu a ffrindiau yn y Gymraeg ar y diwrnod mawr?

Wel, fedra i ddim gaddo na fydd Anti Sw yn cofio bob un rheol ond mi fedrai addo llai o Saesneg a mwy o hwyl yr ŵyl yn Gymraeg gyda rhai o’r gemau bwrdd mwy cyfoes  sydd i’w gael yn y byd. Mae pob un o’r gemau isod yn addas i deuluoedd ac yn llawn hwyl. . Fe wnawn ni ddechrau gyda rhywbeth hawdd…

1 Labyrinth (aMAZEing Labyrinth)

Mae Ravensburger yn gwmni o’r Almaen sy’n allfudo eu gemau ar hyd a lled y byd, felly mae hi’n fanteisiol iddynt i beidio rhoi geiriau ar y bwrdd o gwbl, felly dim byd i’w throsi a na chwaith i’w gyfieithu, ac mae’r gêm hon yn cael ei hystyried yn glasur.  

Peidiwch a gadael i’r lluniau bach hwyl a’r lliwiau llachar eich twyllo chi, mae hon yn gêm sydd angen cynllunio a thactics (neu tictacs chwedl Wali Tomos) ac eto yn addas i unrhyw oed. Mae pawb yn ddewiniaid ac yn chwilio am 6 gynhwysyn gwahanol mewn drysfa. Digon syml hyd yn hyn?  Ond ar ddechrau eich tro mae’n rhaid cymryd teilsen ac ei wthio i mewn i un ochr o’r drysfa sydd yn symud y llwybrau a’r waliau ar hyd y bwrdd ac yn ei newid o am byth! Cewch wneud hyn i greu llwybr haws i chi gyrraedd eich trysor, neu i wneud pethau’n anoddach i’r chwaraewyr eraill.  Ond mae’r dewisiadau gorau yn gallu gwneud y ddau ar yr un pryd, dyma sut mae meistrioli y gêm hon. 

Saesneg ar y bwrdd/cardiauDim
Hawster dysgu5/5
Argymhelliad oed8+
Hwyl i’w chwarae7/10

Gêm i bawb o bob oed!   Pawb gyda chyfle cyfartal  a phobl o bob oed yn gallu cystadlu yn erbyn ei gilydd.

2 Animal Upon Animal

Cwmni arall o’r Almaen yw HABA sydd ag arbenigedd mewn gemau i blant iau, felly cyn lleied o reolau â phosib ac mor syml fedrai i ac Anti Sw hyd yn oed eu deall! ! Hefyd maent yn gwneud sioe fawr o ddefnyddio cyn lleied o blastig a sydd yn bosib. Felly dyma gêm sy’n rhoi’r cyfle i’r hynaf a’r lleiaf fynd ben ben a’i gilydd. 

Mae’n rhaid gosod y creadur cryfaf o’r criw, sef y crocodeil ar ganol y bwrdd lle mae pawb yn gallu cyrraedd. Yna mae angen rowlio dis, nid i symud ond i weld beth yw eich her chi: 1) i bentyrru un neu ddau o’ch anifeiliaid annwyl bach pren ar ben y crocodeil, 2) i osod anifail arall wrth ochr y crocodeil i greu fwy o sylfaen i’ch pyramid neu 3) i ddewis un anifail a’i rhoi fel her i chwaraewr arall ei bentyrru neu 4) pawb arall yn cael penderfynu pa anifail sydd angen i chi ei ddefnyddio nesaf! A’i y mwnci, y draenog neu’r neidr?

Saesneg ar y bwrdd/cardiauDim
Hawster dysgu5/5
Argymhelliad oed4+
Hwyl i’w chwarae6.5/10

Rhaid cael llaw ddi-sigl i’r gêm bach yma ond mae hi’n berffaith i ddysgu enwau anifeiliaid yn Gymraeg!

3 Cobra Paw

Ydych chi fwy cyflym na chath? Beth am Ninja? Beth am gath sydd yn Ninja? Falle eich bod chi’n teimlo’n gyflymach na gweddill o’r teulu ac os felly dyma’r gêm i chi! Cewch gyfle i herio gweddill y tŷ gyda’r gêm bach syml yma! Yn y bocs mae dau ddis mawr a dominos arbennig gyda symbolau sy’n  debyg i rhai tseiniaidd ond peidiwch â phoeni, gêm corfforol ydy hwn ar y mwyaf. 

Yn eich tro, rhaid rowlio’r dis i gael dau symbol gwahanol neu debyg, yna mae’n rhaid i bawb chwilio’r dominos sydd ar wasgar ar hyd y bwrdd.  Mae’r cyntaf i weld y domino sy’n cyfateb i’r dis yn gorfod hawlio’r domino drwy rhoi ei bys neu ei fys  (ac un bys yn unig)  yn y pant bach sy’n nghanol pob domino.  Ond beth sy’n digwydd os oes rhywun arall yn hawlio’r un domino? Wel, gobeithio y daw hi’n ddigon amlwg pwy oedd y cyntaf allan o’r pentwr o fysedd oedd gyntaf!  Mae’r bys (a’r person) buddugol yn cael gosod y domino yma o’u blaen mewn corlan bach personol, y cyntaf i rif penodol o ddominos (dibynnu ar y nifer o chwaraewyr) yn eu corlan sy’n ennill!

OND mae un cymhlethdod bach arall.

Fe ddaw adeg yn y gêm pan fydd y symbolau ar y dis yn cyfateb â domino sydd mewn corlan un o’r chwaraewyr eraill, os dach chi’n ddigon cyflym i sylweddoli cyn iddyn nhw sylwi yna mae siawns i chi gipio’r domino i’ch corlan eich hun! Byddwch yn ofalus, mae’r un peth yn wir i bawb arall hefyd!!

Saesneg ar y bwrdd/cardiauDim
Hawster dysgu4/5
Argymhelliad oed5+
Hwyl i’w chwarae7/10

Pwy sydd gyda’r atblygion orau yn eich teulu chi?  Pwy sydd ddigon da i fod yn Gath Ninja?  Cyfle gwych i ddysgu geirfa megis ‘Fi sy’n hawlio’ ‘Ti sy’n hawlio’ ‘Fy mys i oedd gyntaf’  a ‘Tro pwy sydd nesaf?’

4 The Fuzzies

Dach chi erioed wedi chwarae Jenga ac eisiau gêm llai swnllyd, llai o amser gosod, ac sydd angen mwy o sgil a mwy o feddwl? Na? Dim ond fi felly! Ond os dyma’r math o gêm sy’n apelio, daeth Fuzzies at ein teulu ni ‘Dolig diwethaf ac mae hi nawr yn byw a bod ar y bwrdd.

Yn ‘The Fuzzies’ mae tŵr o beli bach ffelt yn lle darnau mawr o bren, ac fel yn Jenga mae gofyn i chi symud un o’r peli sydd, fel popeth ffelt, yn dueddol o fynd yn sownd i’w gilydd, ac ei osod rhywle arall ar y pentwr (ond ei bod yn uwch na lle y daeth gyntaf). Os oes peli yn syrthio o’r pentwr wrth i chi wneud, nid yw’r gêm ar ben yn syth fel yn Jenga. Yn lle colli mae’n rhaid i chi gymryd cardiau her o’r pentwr cardiau, yr un nifer a’r un lliw a’r peli sydd wedi syrthio.  Ceir llawer o hwyl yn gwawdio a thynnu coes wrth wylio’r anwyliaid yn trio symud un o’r peli ac yn gorfod gwneud hynny drwy ddefnyddio eu dau bys canol ar eu llaw chwaith gan gau un llygad! 

Saesneg ar y bwrdd/cardiauOes
Hawster dysgu5/5
Argymhelliad oed4+
Hwyl i’w chwarae7/10

Gêm ddi-bwys ond llawn hwyl a llawer tawelach i’r rhai o’r teulu sydd efallai yn eithaf sensitif ar fore ŵyl San Steffan!  Efallai bod rhaid cyfieithu rhai o’r cardiau ond cyfle gwych i ddysgu ambell i rannau’r corff.  Un bys, dau fys, tri bys yn dawnsio…

5 Hive

Oes gennych chi Gary Kasparov bach acw? Eisiau rhywbeth sy’n gwneud i’ch meddwl weithio eto’n wahanol i’r aferol o ddau chwaraewr yn cystadlu mewn gornest, ac sydd hefyd tipyn bach yn llai (mewn gofod ac amser) na gêm llawn o Wyddbwyll? Dyma gêm sy’n datblygu sgiliau strategol a chynllunio yn yr un modd â gwyddbwyll, ond gan ddefnyddio bwystfilod bychain.

Y tro hwn mae sach llawn o deils cryf a chadarn (wneith bara’ am flynyddoedd) ac ar bob un mae pryfetach o rhyw fath. Mae pob un ohonynt gyda ffordd unigryw o symud ac yn lle gorfod cael bwrdd mawr, mae’r darnau yn symud o gwmpas eu gilydd fel haid. Mae’r morgrug yn rhedeg mor bell a fynnech o amgylch yr haid, mae ceiliog y rhedyn yn gallu neidio dros bopeth mewn llinell syth, mae’r pry cop yn symud 3 lle yn union, dim mwy a dim llai, a’r chwilen yw’r unig un sy’n cael dringo ar ben creaduriaid eraill I’w nadu rhag symud. Nod y gêm yw i amgylchynu gwenynen eich gelyn fel nad yw hi’n gallu dianc. Cewch ddefnyddio darnau eich hun neu twyllo’ch gelyn i helpu!  

Saesneg ar y bwrdd/cardiauDim
Hawster dysgu3/5
Argymhelliad oed9+
Hwyl i’w chwarae8/10

Rhywbeth i’r plant hyn/oedolion sydd eisiau gêm mwy heriol. Amser unwaith eto i ymarfer enwau anifeiliaid – y tro hyn y pryfetach sydd o’n cwmpas bob dydd.  

6 Hey, That’s My Fish

Dyma chi un bach hwyl a oedd yn boblogaidd iawn acw pan oedd y plant yn iau. Pwy sydd ddim yn hoffi pengwiniaid?  Pengwiniaid boldew barus? Pengwiniaid sy’n sglefrio ar hyd yr iâ? Dim ond y fi eto?! Wel, dyma gêm i mi felly gan eich bod yn cael chwarae fel pengwiniaid bach barus yn sglefrio ar yr ia.

Mae’r “bwrdd” yn dalp mawr o rew sydd wedi ei greu allan o ddarnau bach o rew ar gardfwrdd ac mae gan pob darn o rew nifer o bysgod yn cuddio oddi tano, rhwng 1 a 3 pysgodyn.  Mae pob chwaraewr yn dewis symud ei bengwin mewn llinell syth nes eu bod yn dod at ben pella’r talp (does dim brêcs i’w cael ar rew, cofiwch). Mae’r rhai craff yn  anelu at ddarn gyda nifer go dda o bysgod arni oherwydd eu bod yn cael hawlio y darn hwn. Ar ddechrau eu tro nesaf maent yn sglefrio i ffwrdd i gyfeiriad newydd, gyda’r talp mawr o rew yn mynd yn llai ac yn llai wrth i bobl hawlio’r teils a’r pysgod..  Ar y diwedd, yr un sydd efo’r nifer uchaf o bysgod sy’n ennill.

Disgrifiad syml i gêm bach hawdd ond peidiwch a gadael hynny eich twyllo! Mae yna  rhywfaint o dactegau ac unwaith mae un o’r plant wedi eich ynysu ar un llecyn o’r talp rhew ac wrthi’n dwyn y pysgod i gyd o’r darn mawr, wnewch chi byth edrych ar y gêm, na’ch plant yn yr un modd eto.

Saesneg ar y bwrdd/cardiauDim
Hawster dysgu4/5
Argymhelliad oed8+
Hwyl i’w chwarae8/10

Gêm sydd yn llawn hwyl a sbri ond sydd hefyd rhoi’r cyfle i blant bach direidus fod yn slei ac yn gyfrwys.  Pingu peryglus! 

7 Cockroach Poker

Gêm cardiau o’r Almaen a oedd, yn wreiddiol, yn defnyddio’r enw Kakerlaken Poker.  Ia mae’r thema unwaith eto’n un ych-a-fi ond mae plant yn hoffi’r math yna o beth. Roedd hon yn wreiddiol yn un o gyfres o sawl gêm o dan y thema ’Anifeiliaid Hyll’ gan y cwmni Drei Magier.  Hon yw’r gêm mwyaf poblogaidd a llwyddiannus y gyfres ac dim syndod gan eich bod, wrth chwarae, yn cael canfod yn union pwy yw’r gorau am ddweud celwydd noeth!

Mae pawb yn dechrau gyda llond llaw o gardiau gyda bwystfilod bach cartŵn arnynt; pryfed cop, llyffantod; ystlumod ac ati. Yna mae un person yn dewis cerdyn o’i llaw ac yn ei basio ymlaen i’r chwaraewr nesaf, wyneb lawr gan ddweud yn uchel beth sydd ar y cerdyn  “Dyma’r llygoden fawr.” Ond ydy nhw’n dweud y gwir neu’r gau? Mae’r un sy’n derbyn y cerdyn yn gallu herio drwy ddadlau mai nid ‘Y Llygoden Fawr’ yw’r cerdyn a dderbyniwyd neu yn gallu credu’r chwaraewr arall eu bod yn dweud y gwir.  Yn y naill achos neu’r llall, os ydynt yn gywir, mae’r person sy’n honni yn gorfod cadw’r cerdyn a’i osod wyneb i fyny o’u blaen ar y bwrdd.  Os ydynt yn anghywir mae’r person sy’n herio yn gorfod cadw’r cerdyn o’u blaen nhw.  Ond mae yna hefyd drydydd opsiwn, sef i edrych yn slei ar y cerdyn, ei basio at y person nesaf yn y cylch gan honni “Ie, Llygoden Fawr” neu “Na, dyma’r Pry Copyn”, yna y person nesaf sydd gyda’r dewis o herio’r honiad! Pan mae un unigolyn gyda 4 o’r un math o fwystfil wyneb i fyny o’u blaen, mae nhw’n colli a phawb arall yn ennill. 

Saesneg ar y bwrdd/cardiauDim
Hawster dysgu4/5
Argymhelliad oed8+
Hwyl i’w chwarae7.5/10

Digon o gyfle i ddadlau, honni a gwadu i gyd yn y Gymraeg! Nid gêm ar gyfer y gwangalon mo hon!

8 Can’t Stop

Mae yna is-gategori sy’n cynnwys gemau arbennig lle mae modd  “mentro’ch lwc” ble mae rhywun yn cael y cyfle i chwarae nes eu bod eisiau stopio neu eu bod yn ”mynd yn byst!” Mae gemau adnabyddus tebyg yn bodoli fel Pontŵn a  Yahtzee ond Can’t Stop yw’r gêm sydd, i mi, fwyaf hwyl a hwylus.  

Ar eich troi chi dach chi’n cael pedwar dis a thri cownter i symud i fyny nifer o llwybrau wedi eu marcio o 2 i 12. Dach chi’n rowlio eich dis ac yna yn paru nhw efo’u gilydd mewn unrhyw ffordd sy’n gwneud synnwyr i chi (3+5 a 2+4; 3+2 a 4+5, 2+5 a 3+4) ac yn rhoi eich cownteri ar y llwybrau priodol neu eu symud i lawr y llwybrau hyn os ydych chi eisoes arnyn nhw.  Yna fe gewch chi ail rowlio’r dis mor aml a hoffech chi ond byddwch yn ofalus rhag rowlio rhif sydd yn amhosib i’w ddefnyddio gan y bydd rhaid colli pob un symudiad ymlaen dach chi wedi ei wneud ar y tro hwn! Mae’r llwybrau sydd gyda tebygolrwydd uchel (6,8,7) llawer hirach na’r rhai gyda tebygolrwydd isel (2,12). Pa mor lwcus ydych chi?

Saesneg ar y bwrdd/cardiauEnw’r gêm ar y bwrdd
Hawster dysgu5/5
Argymhelliad oed9+
Hwyl i’w chwarae8/10

Rhaid sicrhau digon o amser i’w chwarae ond digon o chwerthin pan mae rhywun uchel eu cloch yn “bystio!“

9 Carcassonne

O’r diwedd dan ni’n dod i’n ffefryn i. Mae’r gan y gêm gymaint o rinweddau fydd at ddant pob math o bobl, rhai sy’n hoffi jig-so, mapiau, adeiladu cestyll, ffermio, blaen gynllunio a rhai sy’n hoffi byw yn y foment. 

Yn eich tro dach chi’n tynnu teilsen allan o’r bocs/sach a cheisio ei osod fel ei bod yn ffitio gyda’r rhai ar y bwrdd yn barod i greu map enfawr llawn ffyrdd, ffermydd, trefi, cestyll a mynachlogydd.  Mae pawb yn cael argymell syniadau o le i osod y teil ond yn y pen draw y chi sy’n penderfynu.  Unwaith mae’r teil i lawr mae gennych chi’r opsiwn o osod gwerinwr (Meeple yn y gêm yma) ar y teil fel marchog, mynach, lleidr penffordd neu ffermwr. Mae pob un yn sgorio pwyntiau mewn ffordd gwahanol ac yn syml, yr un gyda’r mwyaf o bwyntiau sy’n ennill.

Saesneg ar y bwrdd/cardiauDim
Hawster dysgu4/5
Argymhelliad oed7+
Hwyl i’w chwarae10/10

Dyma’r gêm sy’n wneud i mi wenu mewn tymer da ac mewn tymer drwg  Ydy dy deulu di yn gwybod beth ydy Mynachlog neu Lleidr Penffordd?

10 Hyderus (Confident)

Dyma goron ar ein gemau ni heddiw. Gêm gwis sydd yn y Gymraeg gyda tipyn bach o Saesneg i helpu siaradwyr newydd ac ambell i siaradwr ail-iaith efallai. A dweud y gwir erbyn hyn mae’r gêm yma ar gael mewn nifer o wahanol ieithoedd!  Ac o’r diwedd dyma cwis lle nad yw hi mor bwysig beth ydych chi’n ei wybod! Wnâi esbonio hyn yn well isod ond mae’n golygu bod hi’n bosib i bawb yn y teulu gymryd rhan gan gynnwys y babi, Anti Siw a’r ci! Wel, Anti Siw ella.

Ar bob cerdyn mae cwestiwn, a rhif yw’r ateb posib nid gair ee. Sawl siocled piws sydd mewn tun Quality Street?

Ond mae gofyn i bob person rhoi ystod fel ateb yn lle un rhif ee. Rhwng 22 a 30, a dyma lle mae’r gêm yn glyfar. Mae pawb sydd wedi rhoi ystod sy’n cynnwys yr ateb cywir (ee.25) yn cael un pwynt! Felly mae’r chwaer fawr gyda 0 – 1miliwn yn ennill pwynt, ond mae’r person Hyderus sydd wedi rhoi’r amrediad lleiaf ee. 24-27, os ydynt yn gywir,  yn ennill 3 pwynt! Ond mae hi’n hawdd bod yn rhy Hyderus, weithiau mae hi’n well chwarae’n saff a chropian i fyny’r sgôr fwrdd. Dw i wedi colli i’r ferch acw nifer o weithiau gan ei bod hi’n ofalus iawn yn ei hatebion. 

Saesneg ar y bwrdd/cardiauCymraeg yn gyntaf*
Hawster dysgu4/5
Argymhelliad oed11+
Hwyl i’w chwarae8/10

Y gorau o’r gemau sydd i’w gael yn y Gymraeg. *yn y fersiwn Cymraeg.