Dyma wahoddiad i glywed am waith y Fenter i hybu, hyrwyddo ac ehangu defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau yn siroedd y Fflint a Wrecsam. 

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam am 7pm Nos Iau, Hydref 23ain, 2025 yn Nhŷ Pawb, Wrecsam Ll13 8BY.

Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni yn y digwyddiad cyhoeddus hwn. 

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael i’r di-Gymraeg.    

Os ydych am ymuno â ni yn y digwyddiad, a fyddwch mor garedig ag archebu eich lle trwy un o’r dulliau canlynol: 

  • E-bostio ffion@menterfflintwrecsam.cymru
  • ffonio’r swyddfa ar 01352-744040

Y dyddiad cau ar gyfer archebu lle ydy dydd Llun, 20fed, Hydref 2025 (1:00pm)

Yn dilyn busnes y Cyfarfod Blynyddol byddwn yn cynnal cwis yn y Saith Seren, ynghyd a chyfle i sgwrsio’n anffurfiol am waith y fenter.