Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar Nos Iau 21ain o Dachwedd, 2019 am 6:30.p.m yn:

Ystafell Llannerch, Stryd Lydan, Y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Wrecsam, LL14 1RB

Bydd cyfle i chi siarad â staff a Chyfarwyddwr y Fenter a thrafod eich syniadau am y math o weithgareddau neu brosiectau yr hoffech ein gweld ni’n darparu yn y dyfodol.

Byddwn hefyd yn croesawu Mr Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg atom fel ein siaradwr gwadd a mi fydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y noson.

Os hoffech dderbyn copi o Agenda, Cofnodion, Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol diweddaraf Menter Iaith Fflint a Wrecsam, cysylltwch â ni.

Buasem yn ddiolchgar petaech yn medru cadarnhau os yr ydych yn bwriadu bod yn bresennol ai peidio erbyn Dydd Iau, 14eg o Dachwedd drwy ebostio gwen@menterfflintwrecsam.cymru neu ffonio 01352 744 040 .

Croeso cynnes i chi gyd!