Dros yr haf mi ges i’r cyfle gwerthfawr i weithio gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam unwaith eto, yn bennaf ar brosiect ‘Symud gyda Tedi’ mewn meithrinfeydd ar hyd a lled Wrecsam ond hefyd wrth gyd-weithio gyda Menter Iaith Sir Ddinbych i gynnal gweithdai Lego a Minecraft ar draws Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych.

Symud gyda Tedi

Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf bu i’r Fenter ymweld â thua 40 o feithrinfeydd yn ardal Wrecsam i gynnal sesiynau Symud Gyda Tedi. Nod y prosiect ydy cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog mwy o blant i wneud ymarfer corff a chadw’n heini, ac ar yr un pryd hybu defnydd y Gymraeg a chefnogi’r strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050 – Miliwn o Siaradwyr’.

Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i gyd-fynd gyda llyfrau enwog Magi Ann, gyda darnau o’r straeon yn ysgogi symudiadau cadw’n heini megis Ioga neu ddawns.  Prif bwrpas y sesiynau hwyliog hyn yw i annog plant a’u teuluoedd i gael hwyl drwy gymryd rhan a chymdeithasu yn y Gymraeg.

Roedd y sesiynau llawn hwyl yn para oddeutu 30 i 40 munud ac yn cynnwys ymweliad arbennig gan Tedi!  Roedd y plant wrth ei boddau hefo Tedi a oedd hefyd yn cymryd rhan drwy ddysgu sut i gydbwyso cwpanau wrth ymarfer enw’r lliwiau yn y Gymraeg, ymestyn a loncian gyda’r plant, ac yn gwrando’n astud a’r stori’r pry bach. Mae Symud Gyda Tedi yn ffordd berffaith o annog plant i ddefnyddio’r Gymraeg ac i gadw’n heini ar yr un pryd. Mae clipiau o’r sesiynau ar gael AM DDIM ar sianel YouTube y Fenter.

Ar ôl ymweld â 40 meithrinfa rwyf wedi dysgu sgiliau hollbwysig gan gynnwys sgiliau cydweithio gydag eraill mewn tîm, sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu hefo plant bach ac hefyd sgiliau trefnu a chynnal digwyddiadau o’r fath gan gynnwys ystyriaethau Iechyd a Diogelwch, sut i flaenoriaethu a mwy.

Lego a Minecraft

Dros y misoedd diwethaf rwy wedi helpu swyddogion y Fenter i baratoi ac i gynnal nifer o weithgareddau hwyliog ac amrywiol i blant drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys gweithdai Lego a Minecraft. Roedd y sesiynau Lego a Minercraft yn cynnwys dau sesiwn dwy awr o adeiladu  safleoedd hanesyddol neu o bwys i ardaloedd penodol gan gynnwys Y Cae Ras yn Wrecsam, Bryn y Beili yn yr Wyddgrug, Castell Mwnt a Beili yng Nghorwen a Chastell Dinas Bran yn Llangollen.

Cafodd y plant amser gwych yn magu sgiliau newydd, dysgu mwy am hanes a threftadaeth eu milltir sgwâr a gwneud gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Roedd y gweithdai hefyd yn gyfle i gwrdd â chymdeithasu gyda ffrindiau newydd o wahanol ysgolion gan obeithio dangos bod y Gymraeg yn iaith fyw gymdeithasol tu allan i waliau’r dosbarth.

Er mai Cymraeg oedd prif iaith y gweithdai, braf oedd gallu bod yn hyblyg a chroesawu teuluoedd di-Gymraeg a dysgwyr gan eu cefnogi i ymarfer a defnyddio mwy o Gymraeg.  Roeddem yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o greu amgylchedd braf a diogel lle nad oedd neb yn cael ei feirniadu ac roedd hi’n braf iawn clywed plant ac oedolion yn ceisio dysgu mwy o Gymraeg.

Mae ymarfer a defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd hwyliog, llawn hwyl fel adeiladu castell neu lleoliadau hanesyddol gan ddefnyddio Lego a Minecraft yn sicr yn apelio at blant a phobl ifanc, sydd wrth gwrs yn wirioneddol bwysig i gadw’r iaith a’r diwylliant yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych ‘mlaen at barhau’r perthynas agos gyda Menter Iaith Sir Ddinbych a dwi innau yn edrych ‘mlaen i ddychwelyd rhyw ddiwrnod i godi mwy o gestyll! 

Uchafbwyntiau

Dros y ddau haf diwethaf rwy wedi cael llawer o hwyl yn gweithio gyda’r Fenter ac fel rwy wedi crybwyll eisoes rwy wedi dysgu llawer a magu hyder ar hyd y ffordd.  Uchafbwynt y profiad oedd cael cyfle i gydweithio hefo tîm arbennig Menter Iaith Fflint a Wrecsam a dwi’n teimlo’n ddiolchgar iawn o’r cyfle dros y ddwy flynedd diwethaf o weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a dros y Gymraeg, rhywbeth sy’n hollbwysig i mi.

Mi wnes i gymdeithasu gyda trawstoriad eang o’r gymdeithas yn ystod fy amser gyda’r Fenter gan gynnwys nifer o bobl o oedrannau a chefndiroedd gwahanol gyda fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella’n sylweddol o’r herwydd, hefyd o ganlyniad i hyn roedd rhaid i mi ddatrys problemau amrywiol ac addasu i sefyllfaoedd gwahanol.

 Ar hyn o bryd rwy ar fin dechrau fy nhrydedd flwyddyn o astudio’r gyfraith ym mhrifysgol Lerpwl. Rwy’n sicr y bydd yr hyn rwy wedi ei ddysgu drwy weithio gyda’r Fenter o fudd mawr i mi yn fy astudiaethau gan fy mod yn hyderus iawn bellach yn fy ngallu i ddatrys problemau ac i gyfathrebu gydag eraill, yn ogystal â’r gallu i gydweithio fel rhan o dîm ac i gefnogi eraill – fydd hefyd yn hollbwysig i mi wrth weithio ym maes Y Gyfraith.

Yn ogystal â’r profiad gwaith hollbwysig roedd hefyd nifer o ddiwrnodau doniol, hwyliog a chofiadwy iawn yng nghwmni’r Fenter, boed yn y swyddfa neu wrth gynnal gweithgareddau megis gemau gwirion a Ras yr Iaith.  Roedd y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg dros y gwyliau haf yn wych ac yn gyfle arbennig i mi gael defnyddio fy Nghymraeg yn amlach, yn enwedig gan fy mod yn astudio mewn prifysgol yn Lloegr ac felly ddim yn cael y cyfle i fyw o ddydd i ddydd yn Gymraeg bellach.

Mae’r tîm cyfan wedi bod yn hynod o garedig a thu hwnt o groesawgar gan sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus wrth weithio gyda’i gilydd.  Maen nhw hefyd yn gwybod sut i gael llawer o hwyl! (Fyddai’n colli’r chwerthin yn y swyddfa yn arw –ond  fyddai ddim yn colli chwysu mewn gwisg Tedi!!!!!!).

Mae’r Fenter yn cynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli gwych yn ardal Fflint a Wrecsam i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg felly cysylltwch â’r Fenter os oes gennych ddiddordeb – wnewch chi ddim difaru!  Mae wedi bod yn brofiad arbennig o dda ac rwy wedi gwneud llawer o ffrindiau wrth weithio gyda’r Fenter a byddaf yn bendant yn cadw mewn cysylltiad â nhw. Rwy’n edrych ‘mlaen at allu helpu eto yn ystod fy ngwyliau o’r Brifysgol ac i fynd yn ôl i’r swyddfa atynt oll yn fuan!