
Dyma wahoddiad i glywed am waith y Fenter i hybu, hyrwyddo ac ehangu defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau yn siroedd y Fflint a Wrecsam.
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam am 7pm Nos Iau, Hydref 23ain, 2025 yn Nhŷ Pawb, Wrecsam Ll13 8BY.
Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni yn y digwyddiad cyhoeddus hwn.
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael i’r di-Gymraeg.
Os ydych am ymuno â ni yn y digwyddiad, a fyddwch mor garedig ag archebu eich lle trwy un o’r dulliau canlynol:
- E-bostio ffion@menterfflintwrecsam.cymru
- ffonio’r swyddfa ar 01352-744040
Y dyddiad cau ar gyfer archebu lle ydy dydd Llun, 20fed, Hydref 2025 (1:00pm).
Yn dilyn busnes y Cyfarfod Blynyddol byddwn yn cynnal cwis yn y Saith Seren, ynghyd a chyfle i sgwrsio’n anffurfiol am waith y fenter.