Annwyl Gyfeillion,

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam 

Ar ran Cadeirydd, Cyfarwyddwyr a Staff Menter Iaith Fflint a Wrecsam, ysgrifennaf atoch i’ch gwahodd i glywed am waith y Fenter i hybu, hyrwyddo ac ehangu defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau yn siroedd y Fflint a Wrecsam.  Yn dilyn busnes y Cyfarfod Blynyddol bydd cyfle i chi wrando ar gyflwyniad gan Mr. Iwan Edwards, Swyddog Addysg a Chymunedau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – “Ein Cymunedau Gwyllt: Yr Ymddiriedolaeth Natur ac  Adfywio Cymru”.

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam am 6:30pm Nos Fawrth, Hydref 20fed, 2020 yn rhithiol trwy’r rhaglen Zoom ac mae croeso cynnes i chi ymuno â ni yn y digwyddiad cyhoeddus hwn

Os ydych am ymuno â ni am y digwyddiad, a fyddwch mor garedig ag archebu eich lle trwy un o’r dulliau canlynol:

Mae’r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim ac mae 60 lle ar gael. Mi fydd cyfieithu ar y pryd ar gael yn ystod y noson. Y dyddiad cau ar gyfer archebu lle ydy dydd Llun 19eg Hydref (4:00pm). Byddwch wedyn yn derbyn e-bost gyda dolen gyswllt Zoom, a chanllawiau, i’r Cyfarfod Blynyddol.

Gweler agenda y Cyfarfod drwy ddilyn y ddolen hon.

Gweler Adroddiad Blynyddol 2019-20 drwy ddilyn y ddolen hon a mae Cyfrifon 2019-20 ar gael yma.

Mae croeso i chi gysylltu os ydych angen unrhyw wybodaeth arall.

Cofion gorau,

Gill Stephen

Prif Swyddog