Mae dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Sir y Fflint wedi ennill eu plwyf fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ers peth amser bellach gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych ‘mlaen at gynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar draws y sir fydd yn pontio cymunedau a chenedlaethau.  

Eleni mi fydd ysgolion lleol yn perfformio’n gyhoeddus mewn sawl tref rhwng 10 ac 11am:
Bwcle ar ddydd Llun Chwefror 26ain
Yr Wyddgrug ar ddydd Mercher 28ain
A Treffynnon ar ddydd Iau 29ain.
Felly dyma estyn wahoddiad i chi ymuno yn y dorf i’w gwylio, cefnogi a chymryd rhan ym mwrlwm yr arlwy.   



Bydd disgyblion hefyd yn ymweld a chartrefi gofal yn Y Fflint a Shotton i godi calonnau a rhannu hwyl yr ŵyl gyda’r preswylwyr, fydd yn gyfle gwerthfawr i bobl o bob oedran ddysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd.  

Mae’r gystadleuaeth addurno ffenestri hefyd yn dychwelyd gyda 6 tref yn Sir y Fflint wedi ymrwymo i gystadlu felly ewch yn ystod yr wythnos i weld yr arddangosfeydd lliwgar fydd yn denu sylw ar hyd strydoedd y sir.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:  

“Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam unwaith eto i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.   Maen nhw wedi llunio’r rhaglen amrywiol hon sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn hynod falch o’n treftadaeth ac mae dathlu diwylliant Cymru ar y diwrnod hwn yn achlysur arbennig iawn yn Sir y Fflint. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i bawb sy’n caru Cymru ddathlu, waeth beth fo’u cefndir a p’un a ydyn nhw’n dod o Gymru ai peidio. Mae’n anhygoel gweld pobl o bob oed a chymuned yn dod ynghyd i fod yn rhan o rywbeth arbennig”.   

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu Dydd ein Nawddsant, felly defnyddiwch #DewiSiryFflint ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, wrth rannu lluniau neu ddilyn y digwyddiad drwy gydol y dydd.  

Dylai pawb sy â diddordeb mewn ymuno gysylltu â Ceri Ellett ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio ceri@menterfflintwrecsam.cymru