Edrych yn ôl ar dathliadau Dydd Miwsig Cymru!
Dros y mis diwethaf, mae’r bît-bocsiwr, rapiwr a’r cynhyrchydd amryddawn Mr Phormula (neu Ed Holden), wedi bod yn ymweld â nifer o ysgolion sydd yn rhan o ddalgylch Cronfa Gwynt y Môr yng ngogledd orllewin Sir y Fflint, i gynnal gweithdai Cymraeg a dwyieithog mewn ymdrech i ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o ‘hip-hopwyr’ Cymru.



Roedd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn magu sgiliau creadigol ac yn sicrhau bod plant ysgol cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Saesneg yr ardal yn cael profiadau Cymraeg, llawn hwyl a bwrlwm fydd yn dylanwadu ar eu hagweddau ieithyddol mewn blynyddoedd i ddod. Gwych oedd gweld y plant ym mhob ysgol yn mwynhau creu ac ymwneud a cherddoriaeth Gymraeg mewn ffordd newydd a chyfoes.



Wrth siarad am ei brofiad yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, roedd Ed yn rhoi cipolwg unigryw i’r disgyblion ar sut mae’n defnyddio’r system sain a’r dechnoleg i greu caneuon poblogaidd, cyn gweithio gyda’r disgyblion i greu rap dwyieithog unigryw eu hunain. Roedd hyn yn dangos iddynt y posibiliadau ddiddiwedd sydd wrth ymwneud a’r Gymraeg a bod cerddoriaeth yn ffordd o ymgysylltu â’u diwylliant a’u hiaith.
Ar Dydd Iau, 6ed o Chwefror, cafodd yr ysgolion gyfle arbennig i ddod ynghyd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru gan arddangos y gwaith a grëwyd gydag Ed drwy berfformio’r raps o flaen yr ysgolion eraill. Bu i Mr Phormula hefyd berfformio’n fyw gan chwarae gemau gyda’r plant o’r llwyfan. Cyfle i bawb fwynhau grym cerddoriaeth gyda’u gilydd.



Hoffwn diolch yn fawr i Gronfa Gwynt y Môr am ariannu’r prosiect arbennig, ac i Ed Holden (Mr Phormula) am gynnal gweithdai a pherfformiad byw bythgofiadwy.
Gofynwyd i Ed Holden wedi un o’r gweithdai (Mr Phormula) ;
Pam nes di ymuno â’r sîn gerddoriaeth Gymraeg? :
“Nath o ddisgyn i mewn i fywyd fi rili, nes i gwrdd â boi yn coleg a nath o ddangos i fi – fo yn rapio yn Saesneg ac yn Gymraeg a nath hynna chwalu pen fi, don ni erioed wedi clywed rap yn y Gymraeg o blaen. Wnaeth hyn ysbrydoli fi i neud yr un peth, a wedyn darganfyddais y sîn Gerddoriaeth Gymraeg a dyna nath ysbrydoli fi i ddechrau fy ngyrfa”
Sut bydd ti’n dathlu Dydd Miwsig Cymru eleni?
Mae gennai ddigwyddiad diddorol iawn gyda Menter iaith Fflint a Wrecsam sy’n mynd i fod yn fendigedig. Bydd yr ysgolion da ni wedi ymweld i gynnal gweithdai yn dod at ei gilydd, a bydd pawb yn perfformio sy’n mynd i fod yn wych.
Pa mor bwysig yw hi fod ti’n rapio yn y Gymraeg?
“Mae o i gyd am gynrychioli, a dwi’n ffeindio os wyt ti hefo sgil neu ryw hunaniaeth ddiddorol mae’n bwysig i gyfleu hwnna drwy fiwsig. Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg trwy’r flwyddyn i gyd felly mae’n class bod gennyn ni dydd Miwsig Cymru, ond dwi hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig i gael miwsig Cymraeg beth bynnag”
Agorwch y ddoleni isod i glywed y rapiau anhygoel a chreuodd Ysgolion yn nalgylch Gwynt y Môr ar y cyd gyda Mr Phormula :
Ysgol Gronant & Ysgol Trelogan
Ysgol Mornant a Ysgol Bryn Garth
Ysgol Bryn Pennant & Ysgol Trelawnyd
Diolch yn fawr i Gronfeydd Alltraeth Gogledd Cymru am ariannu ein gweithdai arbennig gyda Mr Phormula 🙂