Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed am Woodstock a Glastonbury, falle eich bod wedi clywed am Tafwyl a Gŵyl Rhuthun. Wel, bellach mae GwyddGig wedi gosod ei stamp ar y sin gerddorol Gymraeg a’r twf cynyddol o wyliau cymunedol sy’n ennyn eu lle yng nghalendr y flwyddyn ar draws Cymru. Ond os nad ydych chi wedi clywed eto am yr ŵyl unigryw newydd hon a chafodd ei chynnal am y tro cyntaf eleni yn nhref yr Wyddgrug, dyma flas ar y bwrlwm a fu…
Roedd yr ŵyl yn gyfle gwych i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg gyfoes a chyffroes i gynulleidfa na fyddai, fel arfer, yn cael mynediad na chwaith yn ei glywed o ddydd i dydd gan gynnal gŵyl am ddim yng nghanol dref Yr Wyddgrug oedd yn agored i bawb, ar ddiwrnod prysuraf yr wythnos; dydd Sadwrn y Farchnad. Ar lwyfan Sgwâr Daniel Owen ac o gwmpas strydoedd y dref bu perfformiadau gan gantorion o fri a thalentau ifanc y gogledd ddwyrain gan roi’r cyfle iddyn nhw hefyd berfformio ar blatfform cyhoeddus – rhai am y tro cyntaf. O ysgol Maes Garmon i ysgol Glanrafon, o bedwarawd Dyffryn Clwyd i Cadan o Faes Garmon, O Andy Hickie, i Gwilym Bowen Rhys i Morgan Elwy a’r band, cawsom wledd o adloniant drwy gydol y diwrnod.
Daeth un aelod o’r cyhoedd i ddweud, “Buasai Gwilym Bowen Rhys wedi gallu gwneud awr ar y llwyfan ar ben ei hun!” Ac un arall, “Mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwych! Pryd mae’r un nesaf?” Bu i un fam gyda’i merch alw heibio ar eu ffordd i siopa yn y bore ac roeddynt dal yno ar ddiwedd y dydd, a hyn i gyd er gwaethaf ambell i gawod, cenllysg a tharanau!
Yn ogystal â cherddoriaeth roedd gweithdai, gweithgareddau, a sesiynau di-ri yn digwydd mewn amryw o leoliadau o gwmpas y dre. Yn yr adeiladau cyfagos roedd bore goffi o dan ofal Gôr y Pentan, Sesiwn tylino babi gyda Cymraeg i Blant, sesiynau i ddysgwyr gyda Doctor Cymraeg a Francesca Sciarillo, sesiynau llawn hwyl gan enwogion fel Tudur Phillips ac Anni Llyn, heb sôn am weithdai Creadigol gyda Theatr Clwyd, Gweithdy Dj gyda Dj Dilys, Twmpath ddawns i’r teulu gyda Dawnswyr Delyn a daeth sawl mudiad a phartneriaid y fenter i ymuno gyda ni gan gynnwys Mudiad Meithrin, yr Urdd, Rhieni Dros Addysg Gymraeg a mwy.
Roedd y diwrnod yn un llwyddiannus tu hwnt ac ni fyddai’r ŵyl wedi mynd cystal heb wirfoddolwyr o Goleg Cambria, ein MC Macsen o Faes Garmon, ffrindiau’r fenter na chyfarwyddwyr y fenter a fu’n brysur yn estyn help llaw, felly hoffai dîm y fenter ddiolch yn fawr iawn i bawb ddaeth i helpu ac i fwynhau’r diwrnod yn ein cwmni.
I gloi’r ŵyl roedd gig arbennig yn Eglwys y Santes Fair gyda Mared a’i band a phedwarawd Dyffryn Clwyd yn ei chefnogi. Doedd dim ffordd gwell i orffen y dathliadau na chael ein cyfareddu gan leisiau hudolus rhai o artistiaid mwyaf amryddawn y gogledd Ddwyrain.
Roedd ein GwyddGig cyntaf yn lwyddiant diamod a gobeithiwn yn wir na nid hon fydd ein GwyddGig olaf.
*Os ddaethoch chi am dro yn ystod y diwrnod, a fyddai modd i chi lenwi ein holiadur adborth isod er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynnig y gwasanaeth orau posib. Diolch. Adborth Gwyddgig Gwyddgig Feedback (office.com)