Rhagflas o’r hyn sydd i ddod yn Awst 2025.  

Gyda Eisteddfod Wrecsam 2025 yn agosáu, fe drefnwyd gŵyl gymunedol ddechrau mis Hydref  ar y cyd gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i ddathlu bod blwyddyn Wrecsam wedi cyrraedd wedi’r hir ymaros.  Roedd hi’n benwythnos llawn bwrlwm o weithgareddau hwyliog i deuluoedd a pherfformiadau cerddorol byw gan unigolion lleol, corau a bandiau gorau Cymru. Fe llwyddodd Gŵyl yr Hydref i roi blas i bobl o bob oed o’r arlwy sydd ar y gweill yn 2025.  

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, mewn datganiad i’r Wasg; 

 “Dyma flwyddyn Eisteddfod Wrecsam, ac rydyn ni’n falch iawn i fod yma yn y gogledd ddwyrain yn dathlu gyda phawb y penwythnos hwn. Mae’r croeso rydyn ni wedi’i gael yn ardal Wrecsam wedi bod yn ardderchog, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y trefniadau ar gyfer Gŵyl yr Hydref.” 

Cychwynnodd yr Ŵyl ar Nos Wener 4 Hydref gyda gig am ddim yng nghwmni’r enwog Dafydd Iwan yn y Saith Seren. Oedd ffordd gwell o ddathlu bod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn dod i Wrecsam yn 2025 na bloeddio canu ‘Yma o Hyd’?  

 Fe werthwyd tocynnau nos Wener o fewn ychydig oriau, oedd yn syndod i neb! Serch hyn roedd digonedd o berfformwyr eraill i’n diddanu yn Nhŷ Pawb ac yn Eglwys San Silyn ar y nos Sadwrn gyda Andy Hickie a Pedair yn ein swyno fel rhan o raglen y ‘ Tŷ Gwerin’ , a Buddug, Pys Melyn a Candelas yn cloi’r ŵyl ac yn efelychu’r naws a geir ar Lwyfan y Maes a Maes B yn flynyddol.  

Y Fenter oedd yn gyfrifol o’r ‘Pentref Plant’ ac fe drefnwyd sesiynau llawn sbri gan gynnwys sesiwn Stori a Chân gyda Cymraeg i blant, Sesiwn Ukulele, sesiwn Symud gyda Tedi gyda Hanna Medi, gweithdy Celf a chrefft gyda Siwan o Siop Siwan, Sesiwn drymio gyda Colin Daimond, Parti Magi Ann ac roedd Sblash, Sioe ddawns deuluolyn perfformio hefyd. 

Fe drefnodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod nifer o ysgolion lleol yn canu ar lwyfan Tŷ Pawb yn ystod y dydd hefyd gan gynnwys Ysgol ID Hooson, Ysgol Bryn Tabor, Ysgol Bodhyfryd, Ysgol Plas Coch ac Ysgol Bro Alun er mwyn dathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ardal. Hefyd, roedd cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg mewn bore goffi ar Gampws Iâl yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth gyda Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain.  

Wrth i dîm pêl-droed Wrecsam baratoi i chwarae Northampton gartref yn y prynhawn, fe gafodd cefnogwyr y clwb gyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg gyda pherfformiad byw gan Candelas yn ‘fanzone’ y STōK Cae Ras cyn y gêm – rhai yn clywed cerddoriaeth Gymraeg byw am y tro cyntaf! Fe aeth gwirfoddolwyr lleol, neu’r ‘Byddin Bwcedi’ fel yr adnabyddir y criw erbyn hyn, i gasglu arian wrth giatiau’r clwb, gan groesawu cefnogwyr wrth iddynt gyrraedd. Diolch i’r Pwyllgor Gwaith leol am yr holl drefnu.  

Roedd Gŵyl yr Hydref yn Wrecsam yn benwythnos llawn hwyl a dathlu, gan lwyddo i ddod â chymunedau lleol a thu hwnt at ei gilydd mewn penwythnos llawn hwyl, cerddoriaeth, a gweithgareddau diwylliannol. Gyda digwyddiadau amrywiol a phawb o bob oed yn cymryd rhan, llwyddodd yr ŵyl i roi blas arbennig o’r hyn sydd i’w ddisgwyl pan ddaw’r Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam y flwyddyn nesaf. O berfformiadau bywiog, i weithdai teuluol a chyfleoedd i ddysgwyr, roedd yn ddathliad gwirioneddol o’r iaith a diwylliant Cymraeg.  

Mae’r Fenter eisiau diolch i bawb ddaeth i Bentre Plant yr Eisteddfod yn Nhŷ Pawb i cymryd rhan yn y dathlu, diolch anferthol hefyd i’r pwyllgor gwaith a’u gwirfoddolwyr am ei gwaith caled a diolch i bob stondin am gymryd rhan yn yr Ŵyl. Mae’r cyffro’n parhau wrth i bawb edrych ymlaen at Eisteddfod Wrecsam 2025 gyda’r un brwdfrydedd a chroeso!  

Prosiect wedi ei ariannu gan Chronfa Dydd Miwsig Cymru 

Ar 24 Hydref, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai ardal Is-y-coed ar ochr ddwyreiniol dinas Wrecsam fydd lleoliad y Brifwyl fis Awst 2025. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9  Awst 2025. Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein : Croeso | Eisteddfod