Mae’r cynllun “Hapus i Siarad” yn fenter arloesol sy’n anelu at annog dysgwyr Cymraeg i ymarfer eu sgiliau iaith mewn busnesau lleol sy’n gallu cynnig gwasanaeth Gymraeg.

Dan ni yn Menter Fflint a Wrecsam wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan o’r cynllun yma ers y dechrau gan gymryd rhan yn y cynllun peilot oedd yn cael ei dreialu mewn 4 sir gan gynnwys Sir y Fflint a Wrecsam y llynedd. 

Yn nghanol dinas Wrecsam ac yn Y Wyddgrug, mae’r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol, gan greu cyfleoedd i siaradwyr newydd ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd bob dydd ac hefyd wedi annog busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg wrth siarad â chwsmeriaid.

Beth yw “Hapus i Siarad”?

Mae “Hapus i Siarad” yn brosiect a lansiwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith, gyda’r nod o gysylltu dysgwyr Cymraeg â busnesau lleol sy’n barod i gynnal sgyrsiau yn y Gymraeg.  Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan yn arddangos poster “Hapus i Siarad” i ddangos eu bod yn croesawu siaradwyr Cymraeg.  

Busnesau sy’n cymryd rhan yn Wrecsam a’r Wyddgrug

Yn yr Wyddgrug, mae nifer o fusnesau wedi ymuno â’r cynllun, gan gynnwys:

  • Siop y Siswrn – (Llun – Sadwrn 09:00 – 16:30 [ar gau Dydd Iau a Dydd Sul])
  • Daniel Morris (Cigydd Teuluol) – (Mawrth – Sadwrn 09:00 – 17:00)
  • P&L Homeworks – (Llun – Sadwrn 09:00 – 17:00)
  • Flower’s by Anne – (Pan ar agor)
  • Spaven’s – (Pan ar agor)
  • Jane Davies – (Dydd Mawrth a Dydd Sadwrn)
  • Caffi’r Cob – (9:00 – 11:00 ac ar ôl 14:00)
  • Tafarndy Yr Wyddgrug – (Dydd Mercher a Dydd Sadwrn 14:00 – 22:00, Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sul 15:00 – 22:00)
  • Yr Helfan – (Dydd Sadwrn 09:00 – 11:00 ac ar ôl 14:00)
  • Ac ar y gweill – Hadyn (Bar Brechdanau newydd yn Yr Wyddgrug.

Yn Wrecsam, mae’r busnesau canlynol yn rhan o’r cynllun:

  • Siop Siwan – (Pan ar agor)
  • Canolfan Ymwelwyr Wrecsam – (Dydd Mawrth a Dydd Mercher 09:00 – 13:00)
  • Drawing Board – (Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 10:00 – 16:00)
  • Pencilcraftsman – Arlunydd – (Dydd Llun i Dydd Sadwrn 10:00 – 14:00)
  • Saith Seren – (Nos Iau)
  • Xplore – (Edrychwch am y bathodyn oren yn ystod oriau agor)
  • Llyfrgell Wrecsam

Mae’r busnesau hyn yn darparu amgylchedd cyfeillgar lle gall dysgwyr ymarfer eu Cymraeg heb deimlo dan bwysau.  

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Llynedd, fe gafodd dysgwyr gerdyn i gasglu stamp neu lofnod gan y busnesau wrth iddynt ymweld a chael sgwrs. Pan oedd y cerdyn yn llawn (dim ond 3 stamp oedd angen), roeddent yn ei ddychwelyd at eu tiwtor neu’n anfon llun ohono at y Fenter Iaith leol, ac roedd y cerdyn yn rhan o raffl i ennill taleb i’r busnesau oedd yn rhan o’r prosiect yn yr ardal.  Eleni, bydd y cardiau sydd wedi llenwi yn mynd i raffl newydd i ennill penwythnos preswyl i ymarfer neu wella eu Cymraeg.

Effaith ar y gymuned

Mae’r cynllun wedi meithrin cysylltiadau cryfach rhwng dysgwyr a’r gymuned fusnes leol, gan hyrwyddo defnydd dyddiol o’r Gymraeg. Mae hefyd wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r iaith ac wedi annog mwy o bobl i ystyried dysgu Cymraeg. Dan ni yn falch iawn i fod yn rhan o’r cynllun yma ac yn annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, boed yn ‘Bore da’ neu ‘Diolch’ neu’n sgwrs llawn.

Sut i gymryd rhan

Os ydych yn dysgu Cymraeg ac am gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â’ch tiwtor dosbarth neu Menter Iaith Fflint a Wrecsam er mwyn derbyn cerdyn. Os ydych yn rhedeg busnes bach neu’n gweithio mewn busnes ac am fod yn fusnes sy’n “Hapus i Siarad”, cysylltwch â Menter Iaith Fflint a Wrecsam am sgwrs ac i dderbyn pecyn.

Mae “Hapus i Siarad” yn enghraifft wych o sut y gall cymunedau gydweithio i hyrwyddo a chynnal yr iaith Gymraeg, gan sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu yn ein bywydau bob dydd.