Macsen dw i, dwi’n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Maes Garmon yn astudio Mathemateg, Mathemateg Pellach, Ffiseg a Cherddoriaeth. Yn fy amser rhydd dwi’n hoffi darllen nofelau ffantasi, Lego, a chwarae’r soddgrwth. Dwi’n rhan o gerddorfa symffoni Wrecsam, uwch gerddorfa gwasanaeth cerdd Sir y Fflint ac yn aelod o fand Dawnswyr Delyn Yr Wyddgrug. Dw i hefyd wedi ennill storïwyr ifanc Cymru sawl gwaith, yn aelod o garfan saethu targed Sir y Fflint, yn aelod o’r grŵp ‘Explorers’ lleol ac arweinydd ifanc sy’n cynnal gweithgareddau a sesiynau i grwpiau’r cenau (cubs) hefyd.

Cefais y fraint ar ddechrau mis Gorffennaf i ymweld a Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn ystod fy wythnos profiad gwaith. Cefais amser anhygoel yn dysgu am waith y fenter wrth iddyn hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam ac yn cynnal gweithgareddau o bob math. Roedd pawb yn hynod o gyfeillgar a chlên yn y swyddfa ac mi ddysgais llawer drwy gyd-weithio mewn tîm gyda swyddogion y Fenter.

I ddechrau’r wythnos, dysgodd Mabli (oedd hefyd ar brofiad gwaith gyda’r fenter) a finnau am waith a hanes rhwydwaith Y Mentrau Iaith, amcanion y fenter hon ac edrych drwy ffolderi marchnata, cyfryngau cymdeithasol, gwefan y fenter a darllen adroddiadau blynyddol diweddar i ddysgu am gannoedd o brosiectau a chynlluniau diddorol crëwyd a chefnogwyd gan Menter Iaith Fflint a Wrecsam dros y blynyddoedd, prosiectau fel Ras yr Iaith a’r sesiynau sydd ar gael i ysgolion. Yna aethom ati i greu cwis Kahoot am hanes y fenter a’r mentrau iaith a fe wnaeth pawb yn y swyddfa gymryd rhan. Dwi’n falch i ddweud fe wnaeth pob swyddog yn y fenter wneud yn dda iawn, diolch byth.

Y diwrnod canlynol roedd rhaid meddwl am brosiectau diddorol y bysa ni’n hoffi ei weld yn cael ei gynnal yn yr ardal. Roedd rhaid edrych ar gronfeydd cymunedol posib gan edrych ar ofynion y cais cyn mynd ati i hel syniadau. Meddyliais am sawl syniad gwahanol a dysgais bod llawer ohonynt yn cael ei cynnig yn barod gan prosiectau fel Helo Blod a Hapus i Siarad felly bydd rhaid meddwl tu allan I’r ‘bocs’ y tro nesaf. Fuon ni hefyd wrthi’n paratoi nwyddau ac offer at y penwythnos gan bydd digwyddiad ‘Ben-di-tedig‘ i deuluoedd a phlant bach yn digwydd ym Mharc Treftadaeth Maesglas lle bydd sesiwn Symud gyda Tedi, helfa drysor a sesiwn celf a chrefft Superted yn cael ei gynnal.

Ar dydd Mercher aethon ni i Ysgol Y Waen i gynnal dau sesiwn Stori a Chân Magi Ann i atgyfnerthu patrymau ieithyddol a rhoi profiad Cymraeg cadarnhaol i blant yr ysgol. Cefais gyfle unwaith eto i wisgo’r wisg, ar ôl ymarfer ynddi dydd Llun, a bu i Chris, swyddog y fenter, diddanu’r plant gyda un o straeon enwog y cymeriad a chanu gyda’r Ukulele. Ro’n i’n dawnsio o gwmpas ac fe gafodd y plant llawer o hwyl yn symud a bloeddio canu gyda ni. Yn y prynhawn roeddwn yn gweithio ar greu posteri ar Canva gall y fenter iaith ddefnyddio yn ystod y flwyddyn i ddathlu digwyddiadau megis Dydd Gwyl Dewi, Diwrnod Owain Glyndŵr a Dydd Miwsig Cymru. Mi ges i hefyd gyfle i weithio ar fy CV a chael ffug gyfweliad anffurfiol gyda’r Prif Swyddog.

Dim dyma oedd y tro cyntaf i mi wirfoddoli gyda’r fenter oherwydd ychydig o wythnosau yn ôl cefais y cyfle i fod yn rhan o ŵyl gymunedol newydd yn yr Wyddgrug: Gywddgig. Mi wnes i gyflwyno’r ŵyl ar y brif llwyfan ar Sgwâr Daniel Owen gan gyhoeddi’r artistiaid, datgan y canllawiau diogelwch a rhannu ambell i jôc. Roedd y profiad yn un gwerthfawr iawn ac roedd cael bod yn rhan o rhywbeth dwi’n siŵr fydd yn tyfu a tyfu bob blwyddyn yn arbennig. Er fy mod wedi arfer siarad gyda chynulleidfaoedd fel storïwr ifanc, ro’n i dal bach yn nerfus wrth drio cofio popeth wrth gyflwyno’r grwpiau o ysgol Maes Garmon, Glanrafon, Gwilym Bowen Rhys, Morgan Elwy a’r band a mwy. Roedd hi’n ddiwrnod prysur iawn gan fy mod hefyd yn rhan o fand Dawnswyr Delyn ac felly ar ôl sefyll ar y llwyfan rhwng 9:30am a 2:30pm, roedd rhaid i mi wibio I’r twmpath teulu yn Neuadd Eglwys Y Santes Fair i ymuno a’r hwyl a’r sbri yn y fan honno.  

Dwi’n edrych ‘mlaen i’r deuddydd olaf yng nghwmni’r tîm ac yn gobeithio y bydd cyfle yn y dyfodol i mi ddychwelyd i ddysgu sgiliau a chynyddu fy wybodaeth o waith y fenter.