Symud Gyda Tedi – Prosiect Newydd a Chyffrous Menter Iaith Fflint a Wrecsam!
Pam creu sesiynau Symud gyda Tedi?
Nod y prosiect hwn oedd cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog mwy o blant i wneud ymarfer corff a chadw’n heini, ac ar yr un pryd hybu’r defnydd y Gymraeg a chefnogi’r strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050 – Miliwn o Siaradwyr’. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa’r Loteri Fawr a Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 am eu cymorth ariannol. Mae’r Cd ‘Symud gyda Tedi’ hefyd wedi chwarae rhan blaenllaw yn y prosiect, ac mae’r Fenter yn hynod ddiolchgar i Mudiad Meithrin am eu cefnogaeth nhw. Rydym hefyd yn diolchgar i ddisgyblion Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, am gyfrannu eu lleisiau i’w defnyddio i adeiladu’r trac sain a’r jingls ar gyfer yr 16 fideo. Cawsom groeso cynnes gan Ysgol Glanrafon a gwnaeth bawb fwynhau’r profiad yn fawr!
Pwy yw Tedi?
Mae Tedi yn un o brif gymeriadau straeon Magi Ann, ac yn ffefryn mawr ymysg y plant. Cafodd y cymeriadau hoffus i gyd eu creu yn 1970au gan yr athrawes Mena Evans, ac erbyn heddiw mae llyfrau ac apiau Magi Ann yn helpu miloedd o blant yng Nghymru a thu hwnt dysgu darllen yn y Gymraeg. Gallwch lawrlwytho apiau Straeon Magi Ann AM DDIM i’ch ffôn symudol, tabled neu gyfrifiadur drwy Storfa Apiau iTunes a Play Store
Neu brynu’r llyfrau yma: www.atebol.com
Beth yw Symud Gyda Tedi?
- Sesiynau cadw’n heini diogel a syml i blant bach a’u teuluoedd wedi’u seilio ar straeon poblogaidd Magi Ann a’i Ffrindiau. Prif nod y sesiynau yw sicrhau y bydd pawb yn cael HWYL wrth gymryd rhan!
- Cyfle i rieni ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda’u plant a rheini di-Gymraeg i ychwanegu at eu geirfa.
- Pob sesiwn rhwng 30 i 40 munud o hyd.
- Sesiynau yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn ôl y cynulleidfa.
- Mae’r sesiynau, yn ogystal â rhai byr sydd yn rhoi rhagflas o’r sesiynau llawn (10 munud o Symud gyda Tedi a Tyfu gyda Tedi) ar gael am ddim ar sianel YouTube.
Bellach mae gan Tedi dudalen Facebook ei hun, ac mae modd dilyn ei hynt a helynt yno.