Mae dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Sir y Fflint yn mynd o nerth i nerth, gyda 6 thref bellach yn cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri i fusnesau gan lenwi’r Sir gyda lliw a balchder. Mae’n werth ymweld a’r Wyddgrug, Treffynnon, Y Fflint, Bwcle, Cei Connah a Shotton i weld yr holl ymdrech a’r creadigrwydd wrth iddynt frwydro i gipio’r wobr gyntaf.
Eleni, mae Menter iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Y Fflint a Chyngor Tref Yr Wyddgrug, hefyd yn trefnu dathliad ar ddydd Sadwrn, Mawrth 1af 2025. Felly dyma estyn gwahoddiad i’r gymuned gyfan ymuno gyda ni ar ddiwrnod Marchnad i ddathlu’r achlysur ar Sgwâr Daniel Owen.
Meddai’r Cynghorydd David Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam unwaith eto i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac maent wedi llunio rhaglen amrywiol gyda rhywbeth i bawb.
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i bawb sy’n caru Cymru ddathlu, waeth beth fo’u cefndir a ph’un a ydyn nhw’n dod o Gymru ai peidio. Mae’n anhygoel gweld pobl o bob oed a chymuned yn dod ynghyd i fod yn rhan o rywbeth arbennig. Mae siopau a busnesau i’w gweld yn cymryd rhan gyda’u harddangosfeydd lliwgar mewn ffenestri ledled y Sir. Mae croeso i bawb ddod draw i fwynhau’r perfformiadau cerddoriaeth a chanu Cymraeg yn yr Wyddgrug ar 1 Mawrth.
Dydd Gŵyl Dewi Hapus, bawb!”
Bydd cyfle yn ystod y bore i wrando ar ganu hudolus Megan Lee a Jacob Elwy ar lwyfan y Sgwâr, cyn aros yn eiddgar i glywed canlyniadau cystadleuaeth ffenestri’r Wyddgrug o’r llwyfan. I gloi’r bore bydd Côr y Pentan a’r delynores leol Emily Owens yn ein diddanu’n ôl yng Nghanolfan Daniel Owen.
Bydd cyfle hefyd wrth gwrs i ymweld a holl fusnesau’r dre a bwrlwm y farchnad wythnosol, dan ni’n eithaf sicr y bydd digon o gennin pedr ar werth a digon o groeso cynnes hefyd.
Dywedodd Jonathan Thomas, Swyddog Marchnadoedd Sir y Fflint:
“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn fwy na dathliad, mae’n dyst bywiog i’n treftadaeth Gymreig, diwrnod i anrhydeddu ein nawddsant, cofleidio ein diwylliant ac uno fel cymuned. Rydyn ni mor ddiolchgar o fod yn gweithio gyda Menter Iaith a’r Canolfan Daniel Owen fel y gallwn ddod â digwyddiadau o’r fath i ganol yr Wyddgrug “.
Mae’r dathliadau hyn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu ein Nawddsant. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio’r hashnod #DewiSiryFflint ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau, gwybodaeth a hanesion o’r digwyddiad drwy gydol y dydd.