Mae hi’n 10 mlynedd bellach ers i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ddechrau gyd-weithio gyda’r awdures leol Mena Evans i addasu ei llyfrau poblogaidd o’r 70au, Magi Ann a’i Ffrindiau’ yn apiau rhyngweithiol lliwgar.  Y bwriad oedd cefnogi plant 3-7 oed a’u teuluoedd dysgu darllen Cymraeg.  Bu’r apiau yn llwyddiant ysgubol gan ennill y brif wobr yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol am y Prosiect Addysg Gorau ym Mhrydain Fawr ac ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth, gyda’r cymeriad hoffus a’i ffrindiau lu yn diddanu torfeydd mewn meithrinfeydd, ysgolion, llyfrgelloedd, gwyliau cymunedol a mwy.

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae datblygiadau newydd cyffroes wedi bod ar droed wrth i’r Fenter gyd-weithio gyda Mena a chwmni cyhoeddi Atebol i gyhoeddi holl straeon Magi Ann gyda’r llyfrau, sydd bellach mewn lliw, ac yn cynnwys adnoddau addysgol ychwanegol, yn dilyn 4 Cam sy’n datblygu’n raddol wrth i’r plant ddysgu patrymau ac ieithwedd mwy heriol.

Fe lansiwyd y camau cyntaf gyda dathliadau ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol wrth i blant bach Cymru ymuno mewn sawl sesiwn stori a chân, cymryd rhan mewn helfa drysor hetiau neu barti, a bwyta ambell i gacen!  Ond nid yw’r Fenter wedi cael y cyfle, eto, i ddathlu’r datblygiad cyffrous diweddaraf hwn yn ein ardal ni’n hunain ac felly gyda’r pedwerydd cam yn y gyfres yn cael ei gyhoeddi’r mis hwn dyma ddatgan y bydd Parti Dathlu Llyfrau Magi Ann yn cael ei gynnal yn Nhreffynnon ar Ddydd Sadwrn Tachwedd 18fed rhwng 10 y bore a 12 o’r gloch.

Yn y Parti bydd cyfle i ddarllen ac i ganu yng nghwmni Magi Ann a’i ffrind Tedi, bydd y consuriwr lleol Professor Llusern yn ymuno i ddiddanu pawb gyda’i driciau hud a lledrith.  Bydd hefyd cyfle i ni ddiolch yn fawr i’r awdures Mena Evans am ei holl waith a chefnogaeth dros y blynyddoedd ac i’r rhai sydd eisiau ymweld â stondin llyfrau y Cyngor Llyfrau.

Os hoffech chi ymuno â’r bwrlwm a’r cyffro, archebwch le drwy ein siop docynnau https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw /