Mae Grŵp Cymraeg Y Waun a’r Ardal yn dathlu blwyddyn ers sefydlu nôl yn Haf 2022, blwyddyn o gynnal gweithgareddau a digwyddiadau llawn hwyl i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, blwyddyn o greu cyfleoedd i siarad ac ymarfer y Gymraeg yn y gymuned a blwyddyn o waith caled i bwyllgor o aelodau brwdfrydig i sicrhau bod y grŵp a’r Gymraeg yn mynd o nerth i nerth.
Mae’r gweithgareddau lu wedi cynnwys nosweithiau cwis, teithiau cerdded, nosweithiau cerddorol a sawl digwyddiad cymdeithasol arall. Fe ddaeth y flwyddyn i ben gyda thaith fws i ymweld â Byd Mary Jones ger y Bala a Chanolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth diolch i Gronfa Cymunedol Cymru. Meddai’r Cadeirydd Glenys Jones;
“Gall ein pwyllgor edrych yn ôl ar y flwyddyn gyntaf fywiog, amrywiol a chadarnhaol ac edrych ymlaen gyda brwdfrydedd at lwyddiant parhaus.”
Fel o rhan o waith y Fenter i ymbweru a grymuso cymunedau i weithredu prosiectau er budd y Gymraeg, mae hi wedi bod yn bleser cefnogi y criw gweithgar yma yn Y Waun i sefydlu’r pwyllgor, eu cynorthwyo i wneud ceisiadau grant ac i gynnig cefnogaeth i drefnu digwyddiadau. Rydym yn dymuno pob hwyl iddynt dros y flwyddyn nesa ac i’r dyfodol.
Mae’r Fenter hefyd wedi bod yn brysur yn cynorthwyo grwpiau eraill dros y ddwy sir gan ymweld a sawl criw o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg gweithgar sy’n awyddus i gymryd y camau nesaf i ffurfioli a chreu pwyllgorau fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i gymdeithasu yn y Gymraeg. Os ydych chi yn mynychu grŵp o’r fath ac yn awyddus i wybod mwy am ein gwaith o gefnogi pwyllgorau cymunedol, cysylltwch.
Yn y cyfamser, dyma estyn wahoddiad i Gyfarfod Blynyddol Grŵp Cymraeg Y Waun a’r Ardal ar Dydd Iau Awst 31ain 2023 yng nghwmni’r gantores leol, Megan Lee. Bydd croeso cynnes i bawb.