Mae’r flwyddyn newydd yn gyfnod cyffrous ac yn gyfle, yn ôl yr arfer, i gymdeithasu ac i greu addunedau. Wel ein hadduned ni ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam yw sicrhau bod digon o gyfleodd i deuluoedd Sir y Fflint gymdeithasu’n y Gymraeg dros y misoedd nesaf, a diolch i gronfa arian Gwynt y Môr mi fydd ein gobeithion yn cael eu gwireddu.
Bob dydd Sadwrn am chwech wythnos gyfan bydd gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal yn Neuadd Ffynnongroyw gan ddechrau ar Ionawr 6ed yng nghwmni ffrindiau pennaf y Fenter; Magi Ann a Tedi. Bydd y sesiwn gyntaf yn addas i blant o dan 7 oed a’u teuluoedd ac bydd cyfle i liwio, chwilio am holl gymeriadau y llyfrau yn ein helfa drysor, cymryd rhan mewn sesiwn cadw’n heini ‘Symud gyda Tedi’ a hefyd gwrando ar ambell i stori a chanu gyda Magi Ann.



Hefyd yn mis Ionawr bydd yr actor, cyflwynydd teledu a’r clocsiwr Tudur Phillips yn ymuno i gynnal gemau gwirion llawn hwyl i’r teulu oll, bydd y consuriwr Professor Llusern yn dod gyda’i sioe Hud a Lledrith gan ddangos i ni sut i greu siapiau di-ri efo balŵns ac yn sicr bydd digon o sŵn yn cael ei greu yng nghwmni Colin Daimond a’i ddrymiau lliwgar.
Ym mis Chwefror byddwn yn dysgu am hanes un o adeiladau enwocaf yr ardal mewn gweithdy Lego arbennig gyda Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych cyn gorffen y gyfres o ddigwyddiadau mewn Twmpath Teulu a Chlocsio gyda’r dawnswraig amryddawn Angharad Harrop.



Mae’r gweithgareddau uchod i gyd AM DDIM ac yn addas i blant ysgolion cynradd a’u teuluoedd. Mi fydd yn rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol a Chymraeg fydd prif iaith y digwyddiadau, ond mi fydd yn addas i blant sy’n rhugl neu rai sydd yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Mae croeso cynnes i bawb!
Archebwch lle drwy ddilyn i ddolen i’n gwefan docynnau: https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw