Llwybrau Llafar Dach chi’n barod i ddarganfod hanes arswydus Wrecsam neu i ddatrys dirgelion a chyfrinachau sy’n llechu yn ein diancfa? Diolch i gronfa Grant Comisiwn Diwylliannol Wrecsam2029, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych ymlaen i wahodd...
Newyddion
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Dyma wahoddiad i glywed am waith y Fenter i hybu, hyrwyddo ac ehangu defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau yn siroedd y Fflint a Wrecsam. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam am 7pm Nos Iau, Hydref 23ain, 2025 yn Nhŷ Pawb, Wrecsam...
Diwrnod Shwmae Su’mae 2025
Cael hwyl wrth siarad Cymraeg yw prif thema Diwrnod Shwmae Su'mae 2025 wrth i Mentrau Iaith Cymru baratoi ar gyfer y digwyddiad blynyddol. Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd uchafbwynt ar ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu, dydd Mercher, 15 Hydref. Eleni, bydd yr ymgyrch yn...
Swydd Wag: Swyddog Prosiect y Sîn ar y Ffin
Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni i greu rhwydwaith o bobl ifanc fydd, gyda chymorth y Fenter, yn arwain ar drefnu perfformiadau, sesiynau a ymgyrchoedd i hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth Gymraeg gan rhoi profiadau celfyddydol o safon i blant a...
Gwyddgig 2025 (Datganiad i’r wasg)
Pleser yw cyhoeddi bod Gŵyl Gymunedol Gymraeg yn dychwelyd i’r Wyddgrug... Mae GWYDDGIG yn ôl! Yn dilyn llwyddiant ysgubol llynedd mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn hapus i gyhoeddi bod Gwyddgig unwaith eto am gynnig diwrnod o ddathliad diwylliannol a chelfyddydol...
SWYDDI GWAG
Wyt ti’n frwd dros y Gymraeg ac eisiau gweld mwy o bobl yn defnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau Cymru? Rydym yn chwilio am ddau berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.Hysbyseb Swyddog Datblygu Cymunedol Fflint a Wrecsam 2025...
Dydd Miwsig Cymru
Edrych yn ôl ar dathliadau Dydd Miwsig Cymru! Dros y mis diwethaf, mae’r bît-bocsiwr, rapiwr a’r cynhyrchydd amryddawn Mr Phormula (neu Ed Holden), wedi bod yn ymweld â nifer o ysgolion sydd yn rhan o ddalgylch Cronfa Gwynt y Môr yng ngogledd orllewin Sir y Fflint, i...
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Sir y Fflint 2025
Eleni, mae Menter iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Y Fflint a Chyngor Tref Yr Wyddgrug, hefyd yn trefnu dathliad ar ddydd Sadwrn, Mawrth 1af 2025. Felly dyma estyn gwahoddiad i’r gymuned gyfan ymuno gyda ni ar ddiwrnod Marchnad i ddathlu’r achlysur ar Sgwâr Daniel Owen.
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025
Mae Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ers tro byd, ac mae’r dathliadau yn ôl unwaith eto ar gyfer 2025! Eleni, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn trefnu dathliad ar ddydd Sadwrn,...
Hapus i Siarad
Mae'r cynllun "Hapus i Siarad" yn fenter arloesol sy'n anelu at annog dysgwyr Cymraeg i ymarfer eu sgiliau iaith mewn busnesau lleol sy'n gallu cynnig gwasanaeth Gymraeg. Dan ni yn Menter Fflint a Wrecsam wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan o’r cynllun yma ers y...
Wyt ti’n gêm?
10 Gêm Bwrdd i’w chwarae yn y Gymraeg dros yr ŵyl! Mae gan pawb, siŵr gen i rhyw brofiad gwael o’u plentyndod o chwarae rhyw hen gêm fwrdd dros y ‘Dolig, falle bod y brawd bach yn gollwr gwael, neu’r brawd mawr yn prynu Mayfair a Park Lane ar y rownd gyntaf bob tro,...








